Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint mewn Busnes yn cynnal digwyddiad Cysylltedd Digidol

Published: 12/07/2019

Yn ddiweddar croesawodd y tîm Busnes yng Nghyngor Sir y Fflint gynrychiolwyr o fusnesau lleol i weithdy ar bwysigrwydd cysylltedd digidol.

Darparodd Niall Waller, Rheolwr Gwasanaeth Menter ac Adfywio, fanylion am flaenoriaethau Strategaeth Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru, yn cynnwys trosolwg o:

•        Gynyddu darpariaeth isadeiledd ffeibr

•        Isadeiledd o’r radd flaenaf ar gyfer safleoedd cyflogaeth strategol

•        Gwell cysylltedd ar hyd llwybrau strategol

•        Datblygu datrysiadau i ddiwallu anghenion cymunedau gwledig

•        Cynyddu nifer y busnesau sy’n mabwysiadu technolegau newydd

•        Llenwi mwy o fylchau o ran darpariaeth cysylltedd digidol cyflym iawn

•        Adnoddau - £9m wedi’i sicrhau drwy’r Rhwydwaith Ffeibr Cyflym Lleol a’r £34m arfaethedig drwy Fargen Dwf Gogledd Cymru

Yna fe esboniodd Rachael Evens, Pennaeth Masnachfraint a Marchnata i gwmni Jackson Fire & Security, Yr Wyddgrug, sut yr oedd eu busnes wedi croesawu cysylltedd digidol ac o ganlyniad wedi gweld gwelliant o ran effeithlonrwydd busnes a phroffidioldeb.

Dywedodd Steve Jackson, Rheolwr Gyfarwyddwr Jackson Fire & Security:

“Roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad cysylltedd digidol a chael y cyfle i ddangos sut mae cysylltedd digidol wedi gwella ein prosesau busnes. Braf oedd cael rhwydweithio â busnesau eraill yn Sir y Fflint a chael clywed sut mae cysylltedd digidol wedi helpu cynhyrchiant eraill hefyd. Digwyddiad ardderchog ac roeddem yn ddiolchgar iawn o gael cymryd rhan”.    

Darparodd Karlos O’Niell, Rheolwr Partneriaethau, Cyflymu Cymru I Fusnesau, drosolwg o’r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau er mwyn galluogi cysylltedd digidol, yn cynnwys cynlluniau talebau i gefnogi isadeiledd.

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn wasanaeth cymorth rhad ac am ddim i fusnesau, sy’n helpu busnesau bychain a chanolig cymwys yng Nghymru i wneud y mwyaf o dechnoleg ar-lein, hybu gwerthiant a gwella cynhyrchiant. I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ewch i https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy.

FCC-Digital-Network-Small-Ginger-Pixie-Photography (14 of 44).jpg      FCC-Digital-Network-Small-Ginger-Pixie-Photography (21 of 44).jpg