Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll Ardrethi Busnes

Published: 21/05/2019

Mae Safonau Masnach Sir y Fflint yn rhybuddio busnesau o dwyll newydd y maent wedi'u hysbysu ohono.  Mae’r twyllwyr yn cysylltu â’r busnes dros y ffôn ac yn honni eu bod yn gweithredu ar ran Cyngor Sir y Fflint.   Maent yn nodi eu bod yn casglu dyledion Ardrethi Busnes a Threth y Cyngor ar ran y Cyngor Sir a bod gan y busnes ôl-ddyledion ac felly maent yn anfon asiantau a faniau gorfodi i'r busnes i gymryd nwyddau hyd at werth y balans. 

Mae’r twyllwyr yn gwybod enwau a manylion llawn y busnes a'i berchnogion, faint yw treth y cyngor a'r ardrethi ar gyfer y busnes a hyd yn oed beth yw pris y taliad cyntaf y flwyddyn hon, gallant gael yr holl wybodaeth hon ar y rhyngrwyd ond gallant swnio’n ddilys iawn i ddioddefwr y twyll bwriedig. 

Twyll yw hyn ac mae’r twyllwyr yn ceisio cysylltu â busnesau pan fyddant yn brysur, os yw busnes yn derbyn galwad o'r fath peidiwch â chytuno i dalu unrhyw beth dros y ffôn, rhowch y ffôn i lawr a chysylltwch ag adran Gyllid Cyngor Sir y Fflint i wirio a oes problem.   Bydd busnesau’n ymwybodol os oes ganddynt ôl-ddyledion, bydd o leiaf dau lythyr wedi’u hanfon gan adran Refeniw Sir y Fflint at y busnes i nodi bod ôl-ddyledion ganddynt.   Waeth pa mor argyhoeddedig y mae’r twyllwr yn ymddangos dros y ffôn, ni ddaw faniau i gymryd eich nwyddau.