Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Neges i'ch atgoffa fod Etholiad Senedd Ewrop ar 23 Mai.

Published: 16/05/2019

Dydd Iau 23 Mai yw'r diwrnod pan fydd pleidleiswyr ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn etholiad Senedd Ewrop. Dylai pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio fod wedi derbyn cerdyn yn nodi manylion yr orsaf bleidleisio lle gallant fwrw eu pleidlais. Does dim angen i chi ddod â hwn ar y diwrnod. Os nad ydych wedi derbyn cerdyn, yna ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Etholiadau os gwelwch yn dda ar 01352 702412 er mwyn canfod lle mae eich gorsaf bleidleisio. 

Beth ddylech chi ei wneud ar 23 Mai? Bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Mae yna 96 o orsafoedd yn Sir y Fflint ac maent ar agor o 7.00 a.m. hyd at 10.00 p.m. ar y diwrnod. Pan gyrhaeddwch, bydd gofyn i chi gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad ac yna fe gewch eich papur pleidleisio. 

Dim ond un bleidlais fydd gan bleidleiswyr i'w bwrw a bydd wyth o bleidiau cofrestredig wedi eu rhestru ar y papur pleidleisio. Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hethol drwy gynrychiolaeth gyfrannol ac felly ni fydd pleidleiswyr yn pleidleisio dros ymgeiswyr unigol yn ôl eu henw fel sy'n digwydd mewn nifer o etholiadau.

Dylai'r marc pleidleisio fod ar ffurf croes wedi ei gosod mewn blwch yn ymyl y blaid y maent yn dymuno pleidleisio ar ei chyfer. Dylai pleidleiswyr wedyn osod y papur wedi ei farcio yn y blwch pleidleisio.

Dywedodd Colin Everett, y Swyddog Canlyniadau Lleol;

“Bydd pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnal eu cyfrif eu hunain ar nos Sul 26 Mai. Rydym yn gwneud hyn ar y dydd Sul gan fod pleidleisio mewn rhannau o dir mawr Ewrop yn digwydd ar y dydd Sul. 

“Pan fyddant wedi cwblhau eu cyfrif bydd y Swyddogion Canlyniadau Lleol yn hysbysu’r Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol i Gymru – sydd wedi ei leoli yng Nghyngor Sir Penfro – ynglyn â chanlyniad y cyfrif yn eu hardal. 

“Bydd y canlyniad ar gyfer rhanbarth etholiadol Cymru wedyn yn cael ei gyhoeddi gan y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol. Ni ellir cyhoeddi canlyniadau lleol cyn 10 p.m. - sef yr amser y bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau mewn rhai rhannau o Ewrop." 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch – mae’r Tîm Gwasanaethau Etholiadol yma i’ch helpu.

Os nad ydych wedi pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio o’r blaen, pam nad ewch chi i wefan y Comisiwn Etholiadol https://www.yourvotematters.co.uk/cymru/home? i ganfod mwy.  

Os ydych wedi gwneud cais am bleidlais bost, fe ddylech fod wedi derbyn eich pecyn pleidlais bost erbyn hyn – os nad ydych, ffoniwch 01352 702412 ar unwaith os gwelwch yn dda.