Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ardrethi Busnes – Cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu a’r Stryd Fawr 

Published: 14/03/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi mabwysiadu cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20, a fydd yn darparu rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol i fanwerthwyr cymwys dros y flwyddyn nesaf.

Mae’r cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru - £23.6m ar draws Cymru – yn ehangu ac yn barhad o Gynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr i dalwyr ardrethi cymwys ar gyfer 2019-20. Bydd hyn o fudd i fusnesau lleol gan y bydd yn rhoi canran uwch o ryddhad ardrethi i fwy ohonynt.

Bydd y cynllun sydd wedi ei ehangu, a gaiff ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn darparu hyd at £2,500 tuag at filiau ardrethi busnes eiddo manwerthu gyda gwerth ardrethol o hyd at £50,000. Mae’r maes hefyd wedi ei ehangu i ddarparu rhyddhad i’r holl fanwerthwyr sy’n gweithredu ar draws y Sir, gan gynnwys am y tro cyntaf parciau manwerthu, canolfannau siopa y tu allan i drefi a stadau diwydiannol.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint:

“Rydym yn falch iawn o allu rhoi’r gefnogaeth hon i helpu i fodloni anghenion y siopau lleol, bwytai, caffis ac eiddo trwyddedig. Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i gynnig yr arbedion hyn, sy’n helpu i hybu ein heconomi leol.

“Mae’r cynllun hwn yn mynd yn llawer pellach na chynllun 2018/19 oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar ddarparu rhyddhad ardrethi wedi ei dargedu o hyd at £750 i fanwerthwyr oedd yn gweithredu yng nghanol trefi. Bydd rhai busnesau nawr yn gymwys am ryddhad ardrethi o £1,750 ychwanegol sy’n gyfystyr â chynnydd o 233% mewn rhyddhad mewn rhai achosion.”

Bydd busnesau cymwys yn gallu gwneud cais ar-lein ar wefan y Cyngor.