Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol

Published: 15/03/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi mabwysiadu Strategaeth Cysylltedd Gogledd Cymru, sy’n ceisio gwella cysylltedd band eang ffeibr llawn ar draws gogledd Cymru – gan ei wneud yn un o’r ardaloedd gyda’r cysylltedd gorau yn y Deyrnas Unedig.  

Mae gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru weledigaeth uchelgeisiol i wella economi’r gogledd, ac mae hynny’n cynnwys datblygu Strategaeth Cysylltedd Digidol ar gyfer y rhanbarth. Defnyddiwyd y strategaeth hon i gyflwyno cais rhanbarthol i Gronfa Her Rhaglen Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol Llywodraeth y DU ar gyfer buddsoddiad mewn cysylltedd digidol a ddarperir gan y sector cyhoeddus. 

Mae’r cais hwn yn canolbwyntio ar uwchraddio cysylltedd sector cyhoeddus drwy amnewid y cysylltiadau copr presennol (sy’n lled band araf deg ac yn eithaf drud) am gysylltiadau ‘ffeibr llawn’ sy’n gynt ac yn well gwerth am arian mewn oddeutu 400 o safleoedd ar draws y rhanbarth. 

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Dyma raglen gyffrous a fydd o fudd i awdurdodau lleol gogledd Cymru yn ogystal â chyrff sector cyhoeddus eraill fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a meddygfeydd. 

“Bydd canlyniad y buddsoddiad yn golygu cysylltedd ffeibr llawn ar draws sector cyhoeddus gogledd Cymru, gan wneud yr ardal yn un o’r ardaloedd gorau am gysylltedd. Gyda’r posibilrwydd y bydd y rheiny sydd o fewn 200 metr i “safle targed” yn gallu manteisio ar fand eang ffeibr llawn hefyd, bydd y buddsoddiad hwn o fudd i’r sector preifat hefyd.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:

“Bydd darparu band eang ffeibr llawn ar y raddfa arfaethedig hon yn golygu y bydd mwy o fusnesau’r ardal yn gallu manteisio ar gysylltedd fforddiadwy ac o safon uwch, sydd fel rheol ar gael mewn canolfannau trefol mawr yn unig. Bydd hyn yn hybu twf diwydiannau digidol sy’n cefnogi swyddi crefftus gyda chyflogau da yn ogystal â sectorau eraill sy’n dibynnu fwyfwy ar gysylltedd gwell. Mae’r rhain yn cynnwys twristiaeth, gweithgynhyrchu a manwerthu.”

Bydd cyfleoedd cyllido eraill yn cael eu harchwilio i estyn y seilwaith ffeibr yn y rhanbarth a'r sir, neu i gefnogi busnesau ac aelwydydd i gysylltu ag o.