Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Published: 17/12/2018

Gofynnir i Aelodau'r Cabinet nodi’r y cynnydd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi'i wneud hyd yn hyn.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bartneriaeth o gyrff cyhoeddus sy’n gweithio gyda’i gilydd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru) yn ogystal â sefydliadau lleol eraill. 

Mabwysiadodd y Cyngor Sir Gynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fis Ebrill eleni, cynllun a ddatblygwyd ochr yn ochr â Chynllun y Cyngor ac sy’n cyd-daro’n gryf â’r blaenoriaethau.

Cyflawnodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ganlyniadau rhagorol yn y chwe mis cyntaf, pan fu’r holl bartneriaid yn cydweithio ynghylch blaenoriaethau’r Cynllun Llesiant.

Mae pob un o'r sefydliadau'n gweithio'n dda gyda'i gilydd, gan ddangos creadigrwydd, parodrwydd ac atebolrwydd, o fewn fframwaith arweinyddiaeth cryf. 

Nod lefel uchel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint yw “gwarchod, cynnal a gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint drwy gydweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus.”

Nodir isod flaenoriaethau’r Cynllun Llesiant ynghyd â rhai o’r pethau a gyflawnwyd hyd yn hyn:

  • Diogelwch Cymunedol
    • Adolygir pob achos cam-drin domestig uchel ei risg bob bore er mwyn sicrhau perchnogaeth a chyswllt â ditectif.
    • Mae Heddlu Gogledd Cymru’n defnyddio mwy o Hysbysiadau Gwarchod rhag Trais Domestig na'r heddluoedd eraill yng Nghymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo i arfarnu pa effaith a gaiff hyn ar achosion cam-drin domestig a phobl sy’n dioddef troseddau mynych.
    • Mae’r Uned Caethwasiaeth Fodern wrthi'n codi ymwybyddiaeth ac yn hyrwyddo rhannu gwybodaeth.
    • Mae Camfanteisio Troseddol ar Blant yn dal o dan sylw yn Sir y Fflint. 
  • Yr Amgylchedd
    • Dechreuwyd y gwaith i greu ‘map’ o’n hasedau gwyrdd a glas (tir a môr) ledled y Sir, wrth i COFNOD (Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru) fynd ati i fapio ein hasedau gwyrdd. Bydd hyn yn galluogi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i benderfynu ym mha ardaloedd y dylid cynnal cynlluniau peilot yn y dyfodol.
  • Byw yn Iach ac Annibynnol
    • o Mae pethau’n mynd yn dda wrth ddatblygu Cartref Gofal estynedig ym Mwcle (Ty Marleyfield).
    • o Mae Canolfan Ofal Iechyd a Llesiant wedi agor yn y Fflint.
    • o Mae trydydd Cynllun Gofal Ychwanegol y Sir wedi agor yn Llys Raddington yn y Fflint, ac mae’r gwaith wedi dechrau i adeiladu’r pedwerydd un yn Nhreffynnon.
    • o Mae’r Ganolfan Gofal Cynnar yn llwyddiant ysgubol, a chafwyd cydnabyddiaeth o hyn yn ddiweddar yng Ngwobrau Partneriaethau Oddeutu Problemau (POP) Heddlu Gogledd Cymru.
  • Cymunedau Gwydn
    • Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gymunedau, gan gynnwys: 
      • Yr Holway yn Nhreffynnon lle mae Gweithgor Amlasiantaeth mawr yn weithgar yn y gymuned. 
      • Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt â thîm prosiect y Fflint er mwyn diffinio pwrpas cyfun canolfan ymwelwyr Castell y Fflint, y clwb rygbi a’r clwb pêl-droed a chanolfan y bad achub. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint, a’r Prif Weithredwr, Colin Everett, sydd hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint:

 “Dyma ddim ond ambell un o blith yr holl ganlyniadau addawol sy’n deillio o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae’n dangos beth allwn ni ei gyflawni pan mae cyrff cyhoeddus yn dod at ei gilydd i gydweithio er lles ein cymunedau lleol.  

 “Bydd y Bwrdd hefyd yn cyfrannu at gynhadledd ranbarthol y Cynghorau Tref a Chymuned, i geisio meithrin dealltwriaeth o’r ffyrdd y gall y Bwrdd gydweithio gyda hwy er mwyn hybu llesiant yn eu hardaloedd lleol.”

Bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf erbyn mis Gorffennaf 2019.