Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Gorfodi Cynllunio

Published: 14/12/2018

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo fersiwn diwygiedig o’r Polisi Gorfodi Cynllunio yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr.

Mae’r Polisi diwygiedig yn rhoi eglurder am y meini prawf y bydd y Cyngor yn ei gymryd i ystyriaeth pan fydd yn ystyried yr amgylchiadau pan fydd yn cymryd camau gorfodi.  Mae nawr yn rhoi rhesymau eglur ac amlwg i’r sawl y cymerir camau yn eu herbyn.

Mae’r polisi drafft wedi bod drwy'r Pwyllgor Craffu ac wedi bod yn destun 6 wythnos o ymgynghoriad cyhoeddus gafodd ei ymestyn oherwydd nifer o geisiadau gan glercod Cynghorau Tref a Chymuned.

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Cafodd y Polisi ei drafod gan y Grwp Strategaeth Cynllunio ym mis Hydref lle cafodd ymateb da, ac yn ddarostyngedig i fân newidiadau, argymhellwyd ei fabwysiadu.   Cytunwyd yn y cyfarfod hwnnw y byddai aelodau yn cwrdd â’r swyddogion gorfodi ar ôl cyhoeddi’r polisi a threfnir sesiwn hyfforddi ar Orfodaeth Cynllunio i bob cynghorydd.”