Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru

Published: 14/12/2018

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru a chefnogi camau blaenoriaeth Cynllun Gweithredu Digartrefedd Lleol Sir y Fflint yn y cyfarfod ar 18 Rhagfyr.

Mae Cynghorau Gogledd Cymru wedi datblygu strategaeth ranbarthol a chynllun gweithredu lefel uchel, gyda chynlluniau gweithredu lleol ymhob sir. 

Amcanion y strategaeth ddigartrefedd yw rhwystro digartrefedd a sicrhau bod llety addas a chefnogaeth ddigonol ar gael i’r rhai sy’n ddigartref.

Mae’r rhanbarth wedi cytuno ar themâu cyffredin sef Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau.

Mae bob awdurdod wedi datblygu eu cynllun gweithredu lleol eu hunain yn seiliedig ar y themâu o fewn y strategaeth ranbarthol ond sy’n adlewyrchu’r blaenoriaethau lleol.  Mae’r cynllun lleol yn Sir y Fflint wedi nodi camau blaenoriaeth er mwyn mynd i’r afael, ac er mwyn rhwystro digartrefedd yn y sir.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Nod y strategaeth yw mynd i’r afael ag achosion craidd digartrefedd, o gysgu allan, lleihau’r niferoedd ar y rhestr aros am dai, lleihau’r nifer o syrffwyr soffa, ac unrhyw fath arall o ddigartrefedd, gyda’r nod yn y pen draw o ddod a digartrefedd i ben yng Ngogledd Cymru.

“Bydd ein cynllun gweithredu lleol yn targedu cyllid ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi datblygiad y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl.”

Y themâu cyffredin o fewn y strategaeth a Chynllun Lleol Sir y Fflint yw:

Pobl (digartrefedd ymysg ieuenctid, cysgu allan, anghenion cymhleth a phobl sy'n gadael carchar)

  • Rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymysg ieuenctid drwy ddatblygu dull amlasiantaeth i rwystro digartrefedd ymysg pobl ifanc; datblygu darpariaeth arbenigol ar gyfer pobl ifanc sy’n ddigartref.
  • Rhwystro cysgu allan drwy gael gwell ddealltwriaeth o'r posibilrwydd ohono yn Sir y Fflint a sefydlu gwell ddealltwriaeth o'r gwasanaethau sydd eu hangen.
  • Rheoli anghenion cymhleth drwy nodi’r heriau a bylchau yn y ddarpariaeth bresennol; darparu gwasanaethau mewn amgylcheddau sy’n wybodus yn seicolegol.
  • Sicrhau llety a chefnogaeth addas ar gyfer pobl sy'n gadael carchar drwy ddull mwy cydlynol ar gyfer pobl sy’n gadael y ddalfa; ymrwymiad parhaus i’r Swydd Ailsefydlu Carcharorion a datblygu cytundeb cilyddol ar draws y rhanbarth.
  • Cyfrannu tuag at grwp llywio Cyfamod y Lluoedd Arfog a pharhau i werthuso i weld os yw dulliau a pholisïau tai a digartrefedd yn cefnogi ymrwymiadau o fewn Cyfamod y Lluoedd Arfog

Tai (tai yn gyntaf, mynediad gwell at lety, llety dros dro)

  • Datblygu prosiectau peilot er mwyn profi egwyddorion tai yn gyntaf a rhannu arferion gorau ar draws y rhanbarth.
  • Gwella’r mynediad i lety drwy wella mynediad i'r sector rhentu preifat; sicrhau bod tai cymdeithasol newydd yn cyfrannu tuag at ddiwallu’r galw am dai i bobl ddigartref; datblygu cefnogaeth tenantiaeth i landlordiaid a chyfryngu er mwyn cynnal tenantiaeth
  • Archwilio datrysiadau arloesol er mwyn lleihau cost llety dros dro; cyflawni adolygiad o lety dros dro presennol mewn cysylltiad â’r galw.

Gwasanaethau (atal, lliniaru diwygiad y gyfundrefn les, iechyd) 

  • Hyrwyddo gwaith y rhaglen cefnogi pobl a sicrhau bod llwybr o wasanaethau i ddiwallu ystod o anghenion; atal achosion o droi allan o dai cymdeithasol drwy brosiectau cefnogi peilot, gwaith cyn tenantiaeth well ac ymgyrch rhent dwy wythnos yn 2019; ystyried polisïau rhag troi allan neu wahardd mewn lleoliadau penodol.
  • Datblygu dull ar y cyd er mwyn lleihau effaith diwygio'r gyfundrefn les ar hawlwyr o oedran gweithio a gaiff eu heffeithio gan Gredyd Cynhwysol.
  • Datblygu perthnasau gweithio agos gyda’r Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yn cynnwys protocolau ar gyfer cyllid hyblyg, iechyd meddwl a rhyddhau o’r ysbyty.