Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfamod y Lluoedd Arfog

Published: 14/12/2018

Gofynnwyd i Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint arnodi’r cynnydd cadarnhaol a wnaed wrth fodloni Cyfamod y Lluoedd Arfog pan maent yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y mis.

Bydd gofyn iddynt gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog cyn ei gyhoeddi.

Dyma ail Adroddiad Blynyddol Cyfamod Lluoedd Arfog Sir y Fflint - addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg. 

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda nifer o bartneriaid sydd wedi llofnodi ein Cyfamod, gan gynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a’r Lleng Brydeinig. Mae grwp llywio amlasiantaeth wedi’i sefydlu ac mae’r Cynghorydd Andrew Dunbobbin, sef Cefnogwr y Lluoedd Arfog ar ran y Cyngor, yn cadeirio’r grwp.

Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys:

  • cwblhau 77% o weithredoedd a nodwyd yn y cynllun gan gynnwys datblygu tudalennau gwe ar wefan y Cyngor ar gyfer Cyfamod y Lluoedd Arfog, a datblygu modiwl e-ddysgu i gynyddu ymwybyddiaeth gweithwyr cyflogedig o anghenion cymuned y Lluoedd Arfog; 
  • derbyn gwobr arian gan y Cynllun Cydnabyddiaeth Gweithiwr Amddiffyn ar gyfer polisïau ac arferion y Cyngor sy’n gyfeillgar i gyn-filwyr;
  • dangos ymrwymiad i’r Cyfamod drwy hyrwyddo Diwrnod Milwyr wrth Gefn a Diwrnod y Lluoedd Arfog; 
  • penodi Swyddogion Cyswllt Rhanbarthol y Lluoedd Arfog (un ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru ac yn ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru). 
  • Roedd Swyddogion Cyswllt Rhanbarthol y Lluoedd Arfog wedi darparu sesiynau hyfforddi i’r tîm iechyd meddwl o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i godi eu hymwybyddiaeth o anghenion cyn-filwyr, gan eu galluogi i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin:

“Rydym yn falch iawn o beth rydym wedi ei gyflawni hyd yma, ond nid ydym yn hunanfodlon.  Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn casglu proffil ein cwsmeriaid sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog fel bod ein gwasanaethau yn gwella’r gefnogaeth iddynt.

“ Rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi newyddlen flynyddol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymuned y Lluoedd Arfog ar ein cynnydd.

Mae dau o’n Swyddogion Cyswllt wedi cwblhau ymarfer mapio o gymuned y Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru a dos y 12 mis nesaf byddant yn canolbwyntio ar fynd i’r afael a’r bylchau a nodwyd.”