Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cais llwyddiannus am Gyllid Llywodraeth Cymru i Ysgol Glanrafon

Published: 12/12/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i sicrhau cyllid Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg i Ysgol Glanrafon yn Yr Wyddgrug.

Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi’r prosiect fel un sy’n debygol o helpu gyda’i darged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Bydd y cyllid ar gael yn dilyn cwblhau cynigion statudol a phroses ymgynghori ffurfiol.

Mae’r cyllid yn cynnwys £1,980,000 ar gyfer ailfodelu ac ymestyn Ysgol Glanrafon er mwyn cynyddu ei faint, yn ogystal â £1,070,000 pellach o gynnig Gofal Plant y Rhaglen Grant Cyfalaf i gynnig darpariaeth cyn ysgol bwrpasol newydd ar safle’r ysgol, a thrwy hynny gyd-leoli darpariaeth y blynyddoedd cynnar a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg.

Dathlwyd y cyhoeddiad hwn yn ddiweddar yn yr ysgol gan aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Meithrin Cymru a Tute Education.  Bu iddynt fwynhau gwrando ar y disgyblion yn canu a chawsant gyfle i gyfarfod rhai o blant y Cylch.

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Bydd y cyllid hwn yn ategu buddsoddiadau cyfalaf sy’n hwyluso twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae’r cyllid wedi’i anelu’n benodol at prosiectau fydd yn cyfrannu i gwrdd â nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Mae’r rhain yn cynnwys cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ychwanegol a chynnig darpariaeth gofal plant neu feithrinfa drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Meddai Miss Llinos Mary Jones, prifathrawes Ysgol Glanrafon:

"Fel ysgol, rydym yn hapus iawn gyda'r newyddion bod ein darpariaeth yn cael ei ehangu i ateb y galw ar gyfer ein niferoedd cynyddol. Rydym yn gynhyrfus iawn ac yn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus i addysg Gymraeg yn yr ardal."

Mae’r prosiect yn ceisio cael gwared ar y llety symudol presennol sydd ar safle’r ysgol a chodi adeiladau parhaol ar gyfer ystafelloedd dosbarth yn eu lle, er mwyn cynyddu'r nifer parhaol o ddisgyblion y gall yr adeilad ei ddal i ddarparu ar gyfer y galw am leoedd.  Mae’r prosiect hefyd yn gobeithio addasu'r maes parcio presennol a darparu parth gollwng pwrpasol ar y safle, er mwyn gwella rheolaeth traffig a diogelwch. 

Bydd y prosiect hefyd yn cynnig darpariaeth cyn ysgol bwrpasol newydd ar y safle, fydd yn denu ac yn gwella’r nifer o ddisgyblion sy’n dod i gymuned yr ysgol drwy bontio naturiol o’r grwp Ti a Fi a’r Cylch i ddarpariaeth Cyfnod Sylfaen statudol.  Mae gan Ysgol Glanrafon enw da am ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, ac adlewyrchir hyn yn ei phoblogrwydd a niferoedd y disgyblion, ond nid oes ganddi’r ystod llawn o ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg y mae rhieni yn ei geisio. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

“Mae'r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg hwn yn rhan o’n rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; y rhaglen adeiladu ysgolion mwyaf uchelgeisiol ers y 1960au. Ar y cyfan, rydym yn buddsoddi £1.4bn i ddarparu’r amgylchedd dysgu y mae ein plant a’n pobl ifanc yn ei haeddu, er mwyn eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial. Nid yn unig y bydd y cyllid hwn yn darparu hyn i ddisgyblion Ysgol Glanrafon, ond bydd hefyd yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ychwanegol, fydd yn ein helpu i gyrraedd ein targedau ar gyfer y Gymraeg.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts:

“Bydd y prosiect yn sicrhau y gall y gymuned ddefnyddio’r ysgol i ddarparu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg megis sgiliau Cymraeg i oedolion. Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posib o’r safle y tu allan i dymor yr ysgol, bydd Clwb Gwyliau Cymraeg hefyd yn cael ei sefydlu ar y safle.

“Bydd buddsoddi mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg bresennol yn ein galluogi i gynyddu nifer y lleoedd yn yr ystâd ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac felly’n cyfrannu’n uniongyrchol i’r uchelgais o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yn yr ardal.”

 

Ysgol Glanrafon 01.jpg  Ysgol Glanrafon 03.jpgYsgol Glanrafon 02.jpg