Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mwy o lwyddiant yn Adeiladu Dyfodol

Published: 11/12/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint a’i bartner, Wates Residential North, yn dathlu llwyddiant y drydedd raglen “Adeiladu Dyfodol” sydd wedi’i rhedeg yn y sir.

Mae’r cwrs hyfforddi pythefnos dwys hwn wedi gweld pobl leol yn cael swyddi mewn labro, gwaith tir a gosod ffenestri, neu brentisiaethau mewn meysydd amrywiol, yn cynnwys gosod brics a gwaith trydanol.

Cafodd ymgeiswyr eu recriwtio drwy raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Sir y Fflint sy’n gweithio gyda phobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi. 

Mae’r rhaglen hyfforddi yn cynnwys sesiynau sgiliau crefftau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed a chynnal a chadw yn ogystal â gweithdai ysgrifennu CV a chyfweliadau gyda Wates Residential a’u partneriaid cadwyn gyflenwi. Derbyniodd pob ymgeisydd dystysgrif mewn seremoni wobrwyo ar ddiwedd y cwrs pythefnos.

Mae darparu Adeiladu Dyfodol yn rhan o swyddogaeth Wates Residential North fel datblygwr arweiniol ar gyfer Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor, a fydd yn gweld 500 o gartrefi newydd yn cael eu creu ledled Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn hwyluso mwy o brentisiaethau newydd yn y sir, yn arbennig ym maes adeiladu.  Da iawn i bob un ohonoch am gymryd y cam cyntaf a chwblhau’r rhaglen hon.  Rydych i gyd wedi bod yn bresennol bob dydd ac wedi cyflawni cymwysterau defnyddiol.  Mae angen pobl fel chi arnom ac mae llawer o gyfleoedd ar gael i chi ddatblygu’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni hyd yma.” 

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: 

“Rydw i eisiau i bawb, waeth beth yw eu cefndir, i gael y cyfle i gyfrannu at ein cymdeithas. Er ei fod yn galonogol iawn gweld y cynnydd diweddar mewn cyflogaeth yng Nghymru, mae’r anweithgarwch economaidd yn dal yn broblem. 

“Mae rhaglenni fel Cymunedau am Waith a Mwy yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â hyn drwy ymgysylltu â phobl yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chymorth cyflogaeth i'r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Mae’r rhaglen hon eisoes wedi helpu dros 1,000 o bobl i gyflogaeth ers ei lansiad yn Ebrill eleni. Erbyn 2020, bydd wedi cael cyfanswm o £24m o gefnogaeth, i adeiladu ar y llwyddiant hwn.”

Achredwyd gan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF). Mae Adeiladu Dyfodol yn rhoi cymhwyster FfCCh Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr i’w helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y dyfodol. 

Building Futures 01.jpg

Myfyrwyr: Luke Hollinrake, Thomas Eyes, Georgia Jones, Sean Mason, Dylan O’Shaughnessy, Leon Jones, Jason Pugh, Kim Lewis, Callum Draper

 

Building Futures 02.jpg

Myfyrwyr gyda Colin Morris - Llywodraeth Cymru, Dean Dillon a Mick Cunningham - Wates, Andrew Farrow - Cyngor Sir y Fflint, Alys Hale - Adran Gwaith a Phensiynau a Cyng Bernie Attridge