Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cludiant i’r ysgol – anghysondebau

Published: 19/11/2018

Bydd Cabinet Sir y Fflint yn trafod newid i rai trefniadau cludiant ysgol anstatudol pan mae’n cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis.

Cwblhawyd astudiaeth o gludiant i’r ysgol fis Medi y llynedd, a daeth o hyd i nifer o wyriadau oddi wrth y polisi (sy'n cael ei galw'n anghysondebau) mewn perthynas â darparu cludiant i'r ysgol. O ystyried yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, cynigir y dylai'r anghysondebau hyn gael eu diddymu o fis Gorffennaf 2020 ymlaen, gan roi 12 mis o rybudd i rieni er mwyn iddynt allu trefnu cludiant arall.  

Mae’r Cyngor hefyd yn adolygu’r cymorthdaliadau mae’n eu darparu i weithredwyr bysiau masnachol, a allai arwain at derfynu rhai gwasanaethau bysiau sy'n derbyn cymorthdaliadau ac sy'n cael eu defnyddio gan ddisgyblion anghymwys. Yn yr achosion hyn, byddai’r disgyblion yn cael cynnig lle ar fysiau ysgol am bris gostyngol a byddai bysiau mwy'n cael eu defnyddio i ateb y galw ychwanegol. Eto, bydd y trefniadau hyn yn cael eu cynnal tan fis Gorffennaf 2020, i ganiatáu i rieni wneud trefniadau eraill ar gyfer eu plant.

Yn ôl y gyfraith, mae angen i’r Cyngor ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol sy’n mynd i ysgol uwchradd ac sy'n byw 3 milltir neu fwy oddi wrth eu hysgol addas agosaf a 2 filltir neu fwy o’r ysgol gynradd. Mae Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Sir y Fflint yn adlewyrchu hyn.  

Os yw disgyblion wedi methu â sicrhau lle yn yr ysgol addas agosaf, bydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i'r ysgol addas agosaf wedyn, cyhyd â bod y meini prawf pellter yn cael eu bodloni dan y polisi cyfredol a bod cyfiawnhad i ddangos pam nad yw plentyn yn mynd i'r ysgol addas agosaf.

Fodd bynnag, os yw dysgwyr yn mynegi eu bod yn ffafrio ysgol, iaith neu ffydd benodol, nid yw hyn yn golygu bod ganddynt hawl i gludiant am ddim, oni bai y pennir mai honno yw’r ysgol addas agosaf i’r dysgwr a bod y dysgwr yn bodloni’r meini prawf pellter.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae hon yn sefyllfa anodd gan fod Sir y Fflint, wrth gwrs, eisiau rhoi cymaint o ddewis â phosib’ i ddisgyblion, ond dan yr amgylchiadau, mae hefyd angen i ni edrych ar y ffyrdd mwyaf cost-effeithiol ac effeithlon o weithio.  Mae Sir y Fflint yn gwario tipyn yn fwy ar gludiant ysgol nag awdurdodau lleol eraill ac, felly, mae angen adolygu ein polisi ni, o gofio'r sefyllfa ariannol."

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

“Bydd y polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cael ei roi ar waith heb eithriad ac os bydd plentyn, o ganlyniad i ddewis y rhieni, yn mynd i ysgol ar wahân i'r un agosaf atynt, dylai'r rhieni wybod na fydd eu plentyn yn cael cludiant am ddim a bydd angen talu.   Mae ceisiadau am le mewn ysgolion yn cael eu gwneud rwan ar gyfer Medi 2019 ac mae angen i rieni ddeall y Polisi Cludiant i'r Ysgol wrth benderfynu.”