Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus 

Published: 13/11/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi adolygu ac ailddrafftio ei Gynllun Gwella Hawliau Tramwy.

Mae’r cynllun drafft yn nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu cyflawni gwelliannau ar y rhwydwaith dros gyfnod o 10 mlynedd.  Mae cyfanswm o 1,082km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng nghefn gwlad Sir y Fflint sy’n cynnwys:

  • Llwybrau Troed - 955.2km;
  • Llwybrau ceffyl - 114.6km; a
  • Cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig – 11.9km.  

Mae’r cynllun drafft diwygiedig, gyda Datganiad Gweithredu steil newydd a’r ystod lawn o bolisïau a gweithdrefnau, yn cael ei rannu gyda phartïon sydd â diddordeb a byddai’r Cyngor yn annog cymaint o bobl â phosibl i gyflwyno sylwadau er mwyn ei gynorthwyo i ddarparu gwasanaeth hawliau tramwy newydd, gan gynnal y rhwydwaith ar gyfer cymunedau Sir y Fflint. 

Gellir dod o hyd i'r dogfennau ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Public-rights-of-way.aspx neu gallwch wneud cais i’w derbyn drwy e-bost.  I wneud cais am wybodaeth a rhoi adborth, anfonwch e-bost at publicrightsofway@flintshire.gov.uk.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

 “Mae hwn yn wasanaeth hynod o werthfawr o fewn y sir.  Mae’r tîm Hawliau Tramwy yn gwella ein mynediad ar draws Sir y Fflint gan ddarparu cyswllt i'n cefn gwlad prydferth, ac ni ddylwn ei gymryd yn ganiataol. Mae hwn yn gyfle da i holl aelodau’r gymuned wneud sylwadau ar y Cynllun Gwella o ran moderneiddio a blaenoriaethu gwelliannau i’r rhwydwaith i gael hygyrchedd gwell ar draws y sir.”