Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


‘Ar y Blaen gyda’r Blaendraeth!  -  celf gyhoeddus newydd wedi’i ysbrydoli gan y gymuned i helpu llunio dyfodol newydd i safle hanesyddol’

Published: 09/11/2018

I ganlyn gwaith a wnaed yn Ionawr a Mawrth 2018 gyda chymuned y Fflint i archwilio, trafod ac edrych ar eu dyheadau ar gyfer y blaendraeth, mae dau gomisiwn unigryw yn cael eu gweithredu i helpu trawsnewid y lleoliad ar lan y dwr unigryw hwn.  

Mae Rheolwyr curadurol y Prosiect, Addo a Chyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â Cadw yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid profiadol i greu gwaith celf sy’n ysbrydoli i gael ei gosod ar Flaendraeth y Fflint, yn ogystal â Llwybr Celf yn cysylltu’r ardal â'r dref fel rhan o raglen adfywio ehangach. Bydd y gwaith celf yn helpu i adeiladu ar brosiect adfywio ehangach sydd yn edrych i ddatblygu canolbwynt cymunedol newydd sy’n fodern ac arloesol ger safle’r castell.

Meddai Tracy Simpson o Addo:

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar y prosiect cyffrous hwn gyda phartneriaid a chyhoedd y Fflint. Dyma gyfle gwych i benodi artistiaid ar gyfer y ddau gomisiwn a fydd yn creu gwaith celf arloesol a meddylgar gan wella edrychiad Blaendraeth a thref y Fflint.”

Bydd y prif ddarn o waith celf gyda pherthynas symbiotig â’r castell ac yn ennyn trafodaeth ac yn gwbl arwyddocaol i bobl leol yn ogystal ag ymwelwyr. Bydd y llwybr o waith celf yn defnyddio syniadau creadigol er mwyn atynnu a gwahodd pobl i'r cyswllt pwysig rhwng y dref a'r blaendraeth.

Mae’r comisiynau hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod angen i’r rheiny fydd yn gwneud cais yn gallu arddangos y parodrwydd i drochi eu hunain ym mywyd a diwylliant yr ardal gan elwa ar y cyfle i weithio gyda grwpiau, cymunedau a busnesau lleol yn ogystal â'r tîm prosiect adfywio ehangach. 

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Cynghorydd Sir sy’n cynrychioli Ward Castell y Fflint ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid:

“Trwy’r ymgynghori hynod fanwl sydd wedi mynd ymlaen yn ystod y prosiect ymchwil a datblygu yn ddiweddar mae’n amlwg fod yna archwaeth go iawn gan bobl y Fflint am ddatblygiad arloesol ar y Blaendraeth sy’n ffordd o ddod â phobl o’r Castell i’r dref - dyma ddatblygiad cyffrous arall a fydd yn cyflwyno ystod o fanteision.”

Am ragor o wybodaeth am y comisiwn Celf Cyhoeddus a’r comisiwn Llwybr Celf cysylltwch â Gwenno Eleri Jones gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk neu Tracy Simpson tracy@addocreative.com.

I wneud cais am un ai’r comisiwn Celf Cyhoeddus neu'r comisiwn Llwybr Celf ewch i wefan Gwerthwchigymru https://www.sell2wales.gov.wales/ a'r dyddiad cau ar gyfer y ddau gomisiwn yw 6 Rhagfyr 2018.