Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Ffigyrau Blaendraeth y Fflint

Published: 12/11/2018

Mae cymeriad lliwgar arall wedi ymuno â 'Meinciau Stori' y bysgotwraig a'r llywiwr bad achub ar Flaendraeth y Fflint.  

Cafodd cerflun o filwr y Rhyfel Byd Cyntaf a mainc eu gosod yn ddiweddar.  Dyluniwyd y milwr gan yr artist lleol, Mike Owen, a chrëwyd y tair mainc fel rhan o brosiect celf cymunedol. 

Mae’r prosiect wedi cydweithio â nifer o bartneriaid, gan gynnwys Cadw a Llywodraeth Cymru ac fe gasglwyd barn y gymuned er mwyn canfod pa ddatblygiadau yr hoffent eu gweld weld ar Flaendraeth y Fflint ac o amgylch Castell y Fflint. 

Rhoddodd Siop Stori dros dro, a agorwyd yn y Fflint ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni, gyfle i bobl alw heibio a rhannu eu hatgofion am y Fflint a’u gobeithion ar gyfer y dref a’r blaendraeth.  Daeth dros 700 o aelodau o’r gymuned ynghyd i rannu archif o ffotograffau ac atgofion o’r arfordir a’r castell a thyfodd syniadau ar gyfer y dyfodol.  O ganlyniad penderfynwyd y byddai’r ‘Meinciau Stori’ yn cynrychioli Fflint y gorffennol a'r Fflint presennol. 

Dim ond un rhan o’r weledigaeth adfywio ehangach ar gyfer y blaendraeth yw’r prosiect hwn lle mae partneriaid yn cydweithio i geisio trawsnewid yr ardal yn gyrchfan cenedlaethol hanfodol ac yn borth i Ogledd Ddwyrain Cymru.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

“Mae’r milwr hwn yn cael ei groesawu’n fawr ac roedd yn cyd-fynd yn briodol â'r digwyddiadau i gofio canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan dalu teyrnged i’r miliynau.  Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant mawr wrth i ni gofio’r gorffennol ac edrych ymlaen at y dyfodol gan adael etifeddiaeth bositif.”

WW1 bench Flint.jpg