Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hen Ganolfan Melrose, Shotton

Published: 16/11/2018

Melrose Press pic 01.jpgYn rhan o Raglen Strategol Tai ac Adfywio’r Cyngor (SHARP), bydd tenantiaid ar hyn yn symud i’r datblygiad tai cyngor newydd sbon ar safle hen Ganolfan Adnoddau Melrose, oddi ar Central Drive yn Shotton.

Bydd y cynllun newydd yn cynnwys 9 cartref, gan ddarparu cyfuniad o dai a fflatiau.

Dechreuodd Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio (SHARP) bum mlynedd o hyd y Cyngor yn haf 2015 mewn partneriaeth â Wates Residential North ac mae hyd yma wedi arwain at gwblhau cynlluniau’n llwyddiannus ar draws y sir, gan ddarparu 91 o dai cyngor newydd a 62 o gartrefi fforddiadwy yn yr Hen Hufenfa, Llys Custom House a Llys St Mark yng Nghei Connah, Llys Alexandra yn yr Wyddgrug, Maes y Meillion a Heol y Goron yng Nghoed-llai a The Walks yn y Fflint, a’r un diweddaraf ar safle hen Ganolfan Melrose.

Mae gwaith datblygu safle newydd ar gyfer tai cyngor a thai fforddiadwy hefyd ar fynd yn Llys Dewi, Penyffordd (Treffynnon) ac mae gwaith wedi cychwyn ar safle Maes Gwern yn yr Wyddgrug. Yn y Flwyddyn Newydd, bydd gwaith yn cychwyn ar ddau safle arall, sef hen Ddepo’r Cyngor, Dobshill a Nant y Gro, Gronant.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Bydd y datblygiad newydd yn Shotton yn dod â chyfanswm y tai cyngor a'r tai fforddiadwy sydd wedi'u cwblhau mewn partneriaeth â Wates Residential North i 153. Fel sy’n wir am ddatblygiadau eraill, mae’r cynllun newydd yma wedi dod â bywyd newydd i gymunedau yn y trefi ac yng nghefn gwlad a bydd yn cyfrannu at eu gwneud nhw'n gynaliadwy ac yn darparu cyfleoedd am waith.

“Rydyn ni’n benderfynol o ateb y galw am dai cymdeithasol yn Sir y Fflint a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cap benthyca'r Cyngor er mwyn i ni allu adeiladu mwy ar gyfer anghenion pobl leol."  

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Mae angen mawr yn dal i fod am dai cyngor gyda rhent fforddiadwy, ac wrth i’r galw am dai fforddiadwy a chymdeithasol barhau i gynyddu yn ein cymunedau, rydyn ni’n benderfynol o ddarparu tai cymdeithasol o’r radd flaenaf i bobl.

“Eto, rydw i’n falch iawn o weld cynllun newydd arall yn cael ei gyflawni drwy SHARP er budd y gymuned leol. Mae pob un o’r cynlluniau yma’n darparu tai o safon ac maen nhw'n gymorth i nifer o deuluoedd sydd ar y gofrestr dai ar hyn o bryd."

Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies, aelod lleol Shotton Uchaf:

“Rydw i’n hapus iawn bod y tai cyngor yma'n cael eu darparu yn Shotton – mae angen mawr amdanyn nhw.  Roedd hen safle’r Ganolfan Adnoddau wedi cael ei adael ond mae'r datblygiad hwn i'w groesawu a bydd, heb os, yn hwb mawr ac yn helpu'r gymuned leol i ffynnu."

Dywedodd Richard Shroll, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential North:

“Fel sy’n wir am bob un o'n datblygiadau newydd, y darn gorau i’n timau ni ydi gweld pobl leol yn symud i’w cartrefi newydd sbon. Ers y diwrnod cyntaf i ni weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, rydyn ni wedi canolbwyntio adeiladu tai o safon i helpu i adfywio'r sir. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ychwanegu at yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma wrth i’n gwaith yn Nhreffynnon a’r Wyddgrug ddod yn ei flaen.”

 

Yn y llun ynghlwm mae (o’r chwith i'r dde):

Y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Ron Davies, aelod lleol Shotton Uchaf, Neal Cockerton, Prif Swyddog Tai ac Asedau, Dawn Kent, Uwch Swyddog Tai a Mick Cunningham, Wates Residential North