Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiadau Ffaglau Goleuni Y Brwydro ar Ben

Published: 07/11/2018

Bagillt Dragon 371_1.jpg

 Bydd Sir y Fflint yn ymuno yn y ddigwyddiadau cenedlaethol i nodi Canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan dalu teyrnged i’r miliynau a laddwyd neu a anafwyd, a’r rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r ymgyrch gartref a frwydrodd drwy boen a cholled i sicrhau fod heddwch yn parhau.

Bydd dros 1000 o Ffaglau Goleuni yn cael eu goleuo ledled y wlad i ddynodi diwedd tywyllwch y rhyfel a dychweliad goleuni heddwch. Bydd ffaglau Sir y Fflint yn ymuno â ffaglau eraill ar y noson arbennig hon i nodi diwedd ar bedair mlynedd o ryfel.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, yn estyn gwahoddiad agored i’r gymuned ymuno â nhw a grwpiau lleol ar ddydd Sul 11 Tachwedd ar hyd arfordir a pharciau Sir y Fflint i ddod ynghyd i gynnau’r ffaglau. 

 

 

 

 

 

 

Gwneir hyn mewn 4 lleoliad yn Sir y Fflint:

 

  • Fflint – Ger yr orsaf RNLI
  • Pwynt Fflint
  • Doc Maes Glas
  • Parc Gwledig Waun y Llyn

 

Byddwn yn cyfarfod am 6.30pm ac yn cynnau’r ffaglau am 7pm.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Stryd a Chefn Gwlad:

“Wrth i Sir y Fflint ymuno â gweddill y genedl yn y digwyddiad coffaol hwn, mae’n gyfle i ni ddod â’r gymuned ynghyd yn ein gofodau awyr agored i gofio’r rhai hynny a fu’n rhan o’r rhyfel gan mlynedd yn ôl. Bydd y ffaglau hyn yn goleuo’r tywyllwch fel symbol o heddwch, yn deyrnged i’r milynau.”