Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru

Published: 01/11/2018

4J9A8931.jpgPleser i Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru oedd croesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething i’w sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Byd Gwaith Llangefni yn ddiweddar. 

Roedd yn gyfle gwych i siarad ag unigolion awtistig, staff y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a phartneriaid am y gwasanaeth a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Caiff y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ei gynnal ar y cyd rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda chysylltiadau cryf â’r maes Addysg.  Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn cynnig parhad mewn cefnogaeth i unigolion awtistaidd trwy drawsnewidiadau amrywiol yn ystod eu bywydau, gan roi cymorth i bobl wrth gyflawni’r pethau hynny sy’n bwysig iddynt. Gwasanaeth yw hwn ar gyfer unigolion nad oes anableddau dysgu neu iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol ganddynt.

Yn y sesiynau galw heibio gall unigolion awtistaidd, eu teuluoedd, eu gofalwyr neu wasanaethau eraill gael mynediad at wybodaeth ynglyn ag awtistiaeth a’r hyn sydd ar gael iddynt yn eu hardal leol. Gall y gweithwyr cyswllt ddarparu gwybodaeth a chyngor neu gefnogi unigolion i gael mynediad at wasanaethau eraill yn seiliedig ar anghenion y sawl sy’n mynychu. Caiff y sesiynau galw heibio eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol ar draws Gogledd Cymru, gan alluogi i unigolion gael mynediad atynt heb orfod teithio’n bell o adref.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Roedd hi’n wych gweld y gwaith sy’n cael ei gyflawni gan Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £13 miliwn yn y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol newydd er mwyn mynd i'r afael â bylchau mewn cefnogaeth a amlygwyd gan unigolion awtistaidd, eu rhieni a’u gofalwyr. Mae’r gwasanaeth newydd yma ar gyfer rhai o bob oed wedi ei gynllunio i wella gwasanaethau sy’n bodoli yn barod, ac yn cynnwys gwasanaeth diagnostig newydd i oedolion a chefnogaeth ôl-ddiagnostig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r ymweliad hwn wedi rhoi y cyfle i’r Ysgrifennydd Iechyd ennill gwell mewnwelediad i Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru a’r gwaith anhygoel y mae’n ei gyflawni, yn ogystal â’r modd y bydd yn rhyngweithio â gwasanaethau eraill sy’n bodoli’n barod ac sy’n gweithio ag unigolion awtistaidd a’u teuluoedd ar draws Gogledd Cymru.”

Meddai Willow Holloway a Liz Darcy o’r Prosiect Grymuso Menywod Awtistaidd: 

“Roeddwn i’n disgwyl cael y cyfle i’m cyflwyno fy hun a dweud ambell air yn unig. Fodd bynnag, cefais sgwrs hir a dwys â Vaughan Gething, gan lwyddo i drafod sut yr o’n i’n teimlo o ran yr angen am ymgysylltu parhaus er mwyn sicrhau fod mwy o leisiau awtistaidd yn cael gwrandawiad, ac y byddai cydgynhyrchiad â’r gymuned awtistaidd yn cynyddu dealltwriaeth. Cafwyd y cyfle hefyd i fynegi nifer o bryderon sydd wedi cael eu lleisio gan y gymuned awtistaidd fenywaidd.”

Dywedodd Daniel M Jones, sy’n byw yng Ngogledd Cymru ac sy’n rhedeg y sianel YouTube boblogaidd @TheAspieWorld:

“Mae llawer o bobl wedi bod yn hir ymaros dyfodiad Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru. Mae cymaint o unigolion sydd angen cefnogaeth a chyngor, ond sydd heb allu dod o hyd iddo ar lefel leol. Mae’n wych fod Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn edrych i fodloni anghenion unigol ac integreiddio i’r gymuned trwy ddefnyddio rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli. Mawr yw’r angen amdano ac fe fu’n hir yn dod, ac er yn dal i fod yn ei fabandod, fe fydd yn helpu nifer fawr o bobl yng Ngogledd Cymru wrth dyfu.” 

4J9A8971.jpg