Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Wyneb Newydd ar Ffordd Gerbydau'r A549 Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa

Published: 30/10/2018

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn gosod wyneb newydd ar y ffordd gerbydau a gwaith cysylltiedig ar yr A549 Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa rhwng cylchfan y Wylfa a Lôn Chambers, yn dechrau ddydd Mawrth 6 Tachwedd 2018 am oddeutu 3 wythnos.

Bydd cyfyngiad un ffordd dros dro mewn grym yn gwahardd cerbydau rhag teithio tuag at Fwcle o’r Wyddgrug, o'i chyffordd â chylchfan yr A494 hyd at Lôn Chambers. Bydd y cyfyngiad unffordd mewn grym er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y briffordd. Bydd rhaid cau’r ffordd yn llwyr am gyfnod o 3 diwrnod ar ddiwedd y prosiect, bydd y dyddiadau hyn yn cael eu cadarnhau yn nes at yr amser. 

Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A494(T) Ffordd Osgoi'r Wyddgrug, A494(T) Ffordd yr Wyddgrug i gylchfan Ewlo a’r B5127 Ffordd Lerpwl. 

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

 “Ar ran Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr Roadway Civil Engineering Cyf, hoffwn ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn a byddwn yn cwblhau’r gwaith mor sydyn â phosibl.

 “Mae hwn yn gynllun ail-wynebu ffordd arall yn y rhaglen bresennol, ac mae’n un o nifer o gynlluniau sy’n cael eu cwblhau yn ardal Bwcle a fydd yn darparu buddion hirdymor i breswylwyr lleol a defnyddwyr ffyrdd pan fydd wedi’i gwblhau.”