Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dadorchuddio Gwaith celf Cofeb Newydd Bwcle 

Published: 23/10/2018

Buckley 1.jpgMae Prosiect Cofeb Celf Cyhoeddus Bwcle yn dod i'w ben fis Hydref gan fod y gwaith celf ei hun yn cael ei osod ar safle Precinct Way Bwcle ger siop Aldi, ar hen safle'r Lleng Frenhinol Brydeinig. Croeso i bawb ddod i’r digwyddiad dadorchuddio am 11am ddydd Sadwrn 27 Hydref pan fydd y gofeb yn cael ei hailagor yn swyddogol. Bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn yn Llyfrgell Bwcle. 

Wedi ei arwain gan grwp llywio cymunedol, ac wedi galwad agored a chyfnod o ymgynghori gyda’r gymuned, comisiynwyd y cerflunydd o Nottingham, Richard Janes, i greu cerflun dur gwrthstaen sy’n edrych fel adenydd ac sydd ag amrywiol ystyron fel colomen heddwch ac angen gwarcheidiol, ac sy’n cyfeirio at gofebau rhyfel traddodiadol, ond gydag elfen gyfoes. Mae’r adenydd hefyd yn cynnwys dyluniadau a wnaed gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Elfed. 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Sir y Fflint:

“Mae’r darn hardd hwn o gelf wedi ei gomisiynu a'i ddewis gan y gymuned leol i gofio am filwyr a fu farw. Chwaraeodd disgyblion o Ysgol Elfed, aelodau o’r Lleng Brydeinig Frenhinol ac arian cynllunio Adran 106 o ddatblygiad Aldi ran, drwy ddewis yr artist Richard Janes sydd wedi creu cerflun addas er mwyn nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf." 

Meddai Cadeirydd Lleng Frenhinol Brydeinig Bwcle, Steve Evans: 

“Ers i’r clwb gael ei chwalu mae safle’r gofeb wedi dioddef o ddiffyg gwaith atgyweirio, ac rydym yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr ag aelodau o’r gymuned i ail-siapio’r gofeb a sicrhau bod gennym safle priodol i gofio’r rheiny o Fwcle a wnaeth yr aberth eithaf.” 

Meddai Maer Tref Bwcle, y Cynghorydd David Ellis, sy'n aelod o'r grwp llywio:  

“Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda'r gymuned i benderfynu ar waith celf sy'n cael ei osod ar hen safle'r Lleng Frenhinol Brydeinig. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn ei le ar y safle, ac yn gobeithio y bydd y dref gyfan yn gwerthfawrogi’r amser a’r ymdrech mae’r gwirfoddolwyr wedi ei roi i’r prosiect hwn er mwyn eu gwneud yn falch o Bwcle.” 

Buckley 2.jpgBydd cyfle i gwrdd yr artist ac aelodau o’r panel dethol yn Llyfrgell Bwcle wedi’r dadorchuddiad. 

Mae Richard Janes yn gerflunydd proffesiynol, sy’n creu gwaith celf drwy gomisiwn a phreswyliad gyda mwy nag ugain mlynedd o brofiad o brosiectau llwyddiannus yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn y gorffennol mae wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, asiantaethau amgylcheddol, grwpiau cymunedol, ysgolion a chleientiaid preifat i ddylunio, datblygu a chreu gwaith celf gwreiddiol www.richardjanes.co.uk