Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru

Published: 19/10/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru pan fydd yn cyfarfod yn hwyrach yn ystod y mis. 

Caiff Strategaeth Anableddau Dysgu ei ddatblygu ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru. 

Mae’n amlinellu’r weledigaeth ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i bobl sydd ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch anghenion y boblogaeth a beth sy’n bwysig iddyn nhw, beth yr hoffem eu gweld yn newid a sut y byddwn yn gweithredu'r strategaeth. Bydd y strategaeth yn mynd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gael ei gymeradwyo ym mis Tachwedd, ac ar ôl hynny, bydd yn mynd trwy broses gymeradwyo'r chwe awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Ein gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru yw cynnig ansawdd bywyd gwell i bobl sydd ag anableddau dysgu; a’u galluogi nhw i fyw yn lleol mewn rhywle diogel, lle y maent yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn eu cymunedau a chanddynt fynediad at gymorth personol effeithiol sy’n hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth.  

“Mae’r strategaeth yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl yn teimlo sy’n bwysig iddynt: rhywle da i fyw, rhywbeth ystyrlon i'w wneud, ffrindiau, teulu a pherthnasoedd, teimlo'n ddiogel, teimlo’n iach a derbyn y cymorth cywir.  Rydym wedi ymrwymo i gryfhau gwasanaethau Cymraeg yn ogystal â darparu cynnig gweithredol drwy’r fframwaith Mwy na geiriau. 

Mae Sir y Fflint wedi ymrwymo i’r gwaith partneriaeth rhanbarthol uchelgeisiol hwn, ac rydym eisiau datblygu’r arfer gorau sydd ar waith gennym eisoes yn Sir y Fflint.”

Mae pum pecyn gwaith yn y strategaeth sy’n nodi sut y byddwn yn cyflawni’r newidiadau hyn, dyma nhw:

  • Strwythurau integredig: sicrhau bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cydweithio’n well i gefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu. 
  • Datblygu'r gweithlu: Sicrhau bod staff yn gwybod sut i gyfathrebu’n dda gyda phobl sydd ag anableddau dysgu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn gallu gwneud newidiadau i gynnig cefnogaeth well iddynt.  Bydd hyn yn helpu pobl i gael y gofal iechyd y maent ei angen. 
  • Comisiynu a chaffael: gweithio gyda sefydliadau eraill i sicrhau bod gennym y mathau o dai a chefnogaeth y mae pobl eu hangen. 
  • Newid cymunedol a diwylliannol: gweithio gyda’r gymuned leol i sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu yn gallu cael mynediad at lawer o weithgareddau gwahanol a chyfarfod pobl newydd os ydyn nhw eisiau gwneud hynny. Helpu pobl sydd ag anableddau dysgu i gael swyddi sy’n talu. 
  • Technoleg gynorthwyol: Dod o hyd i ffyrdd i ddefnyddio technoleg megis larymau a ffonau symudol i helpu pobl i fod yn fwy annibynnol.