Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnydd i Ddarparwyr

Published: 25/10/2018

Yn ei gyfarfod ar 23 Hydref gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint  gydnabod effaith gadarnhaol y rhaglen ‘Cynnydd i Ddarparwyr – Creu Lle i’w Alw’n Gartref, Darparu’r Hyn sy’n Bwysig’. 

Datblygwyd y rhaglen hon gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint mewn partneriaeth â rheolwyr cartrefi gofal. Mae'n anelu at wella ansawdd bywyd pobl hyn sy’n byw yng nghartrefi gofal Sir y Fflint drwy gefnogi staff i weithio mewn ffordd wahanol.

Yn Sir y Fflint mae dros 26 o gartrefi gofal nyrsio a phreswyl sy’n cefnogi dros 800 o bobl hyn i fyw yn dda. Mae’r rhan fwyaf o’r cartrefi hyn yn berchen i, ac yn cael eu rheoli gan bobl fusnes leol sy’n wynebu heriau sylweddol o ran sicrhau fod eu busnesau nhw a’r sector gofal yn llwyddiannus.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o'r perthnasau cadarnhaol sydd wedi datblygu gyda darparwyr,  a'u parodrwydd i ymgysylltu er mwyn creu a datblygu ymagweddau ac atebion newydd i fynd i’r afael â’r ffyrdd newydd hyn o weithio.  Ers Ebrill 2015 mae’r Tîm Comisiynu wedi gweithio gydag arweinwyr cartrefi gofal i ymwreiddio arferion gwaith papur a gweithio newydd, gan helpu staff i gefnogi pobl hyn i wneud yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Yn sgil y prosiect, sy’n cyflwyno cynllun achredu efydd, arian ac aur yng Nghartrefi Gofal Sir y Fflint, gwelwyd gwelliannau mesuradwy yn llesiant pobl hyn. Mae’r prosiect hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad staff a’r gallu i ddal gafael ar staff yn y sector gofal lleol. 

Enillodd y prosiect arloesol hwn Wobr Canmoliaeth Gofal Cymdeithasol Cymru ac roedd ymysg y rhai a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau'r Gymdeithas er Rhagoriaeth Mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE) yn gynharach eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Roedd yn gyrhaeddiad aruthrol cyrraedd rowndiau terfynol y ddwy Wobr hon, heb sôn am ennill!  I’n swyddogion a’n partneriaid am eu gwaith caled a’u hymroddiad y mae’r diolch am y gydnabyddiaeth y mae'r prosiect arloesol hwn wedi’i gael ar lefel genedlaethol.

Hyd yma mae pedwar cartref gofal ar ddeg wedi ennill y wobr efydd am arfer unigolyn-ganolog ac mae eraill yn gweithio tuag at hyn.  Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu canllawiau a gwaith papur ar gyfer y wobr efydd yn ogystal â gwaith i addasu'r rhaglen ar gyfer darparwyr cartrefi nyrsio.  Dechreuodd y gwaith hwn yn ddiweddar ac mae sawl cartref gofal yn Sir y Fflint eisoes wedi bod yn defnyddio rhai o’r teclynnau unigolyn-ganolog gyda’u preswylwyr”.

Meddai Clare Roberts, Rheolwr Cartref Preswyl Haulfryn yng Nghymau:

Mae gweithio gyda Sir y Fflint ar y Cynnydd i Ddarparwyr yn bleser mawr. Gan weithio fel tîm agos, rydym wedi gwella ein gwaith papur ac yn y pen draw wedi gwella'r gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig i'r bobl sy'n byw yn Haulfryn. Mae hyder staff wedi cynyddu wrth iddyn nhw addasu eu cefnogaeth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i bobl.  Fel rheolwr, rwyf wedi gweld y rhaglen hon yn wirioneddol rymuso’r unigolion sy'n byw yn Haulfryn, gan sicrhau mai eu meddyliau a'u dymuniadau nhw sydd yn flaenllaw ym mhopeth yr ydym yn ei wneud.