Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaethau Cofrestru yn Sir y Fflint

Published: 19/10/2018

Gofynnir i Aelodau Cabinet Sir y Fflint gefnogi menter newydd ar gyfer gwasanaeth cofrestru’r Sir a chymeradwyo atodlen ddiwygiedig o ffioedd pan fyddant yn cyfarfod yn hwyrach ymlaen y mis hwn.

Mae’r gwasanaeth cofrestru’n cynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil, trwyddedu lleoliadau ar gyfer seremonïau sifil, cadw cofnodion wedi’u harchifo, cyhoeddi copïau o dystysgrifau a chynnal seremonïau dinasyddiaeth a dathliadau, fel adnewyddu addunedau priodas. 

Mae’r gwasanaeth cofrestru yn Neuadd Llwynegrin, sy’n eiddo rhestredig anhygoel.  Mae cwmpas i gynnig amrediad o wasanaethau eraill a fyddai’n ategu at wasanaethau presennol, ac yn eu gwella, wrth gynhyrchu refeniw ychwanegol i’r Cyngor.

Adeiladwyd Neuadd Llwynegrin gan Thomas Jones, pensaer a syrfëwr lleol y sir, ac fe’i cwblhawyd ym 1830. Roedd yn gartref gwledig tawel tan 1948 pan brynwyd y Neuadd a’r tir amgylchynol gan Gyngor Sir y Fflint.  Mae’r Neuadd yn cadw awyrgylch cartref teuluol ac yn cadw cyfoeth o nodweddion y cyfnod, ac yn lleoliad perffaith ar gyfer bob achlysur.

Ar hyn o bryd, mae dwy ystafell seremoni yn Neuadd Llwynegrin ac mae cyfle i gyflwyno ystafell arall.  Mae yna ystafell eithriadol o odidog sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer dibenion eraill.  Mae’n cyflwyno cyfle i gynnig ystafell drwyddedig ychwanegol ar gyfer seremonïau neu i gynyddu’r amrediad o wasanaethau ategol, fel cynnig diod a canapés cyn neu ar ôl seremoni.  Gallai Theatr Clwyd ddarparu’r gwasanaeth hwn, sydd eisoes yn cynnig amrediad o wasanaethau priodas. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint:

“Rwy’n meddwl y bydd pobl sy’n dathlu eu priodas ym mhrydferthwch Neuadd Llwynegrin eisiau nodi’r achlysur gyda bwyd a diod o ansawdd uchel, ac yna i gerdded i'r theatr ar gyfer eu brecwast priodas.

“Gyda galw cynyddol am seremonïau mwy unigryw, gallai’r gwasanaeth cofrestru hefyd gynyddu’r mathau o seremonïau dathliadol y mae'n eu cynnal, er enghraifft, dathliadau yn yr awyr agored ac mewn lleoliadau heb eu trwyddedu.

“Byddai pob un o’r cynigion hyn yn cynhyrchu incwm i’r Cyngor.”

Mae’r adroddiad i’w gyflwyno gerbron y Cabinet hefyd yn nodi’r atodlen ffioedd ddiwygiedig ar gyfer 2019/20 a 2020/21 i Aelodau’r Cabinet ei adolygu a’i gymeradwyo.