Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lliwgar a Llachar Ddydd a Nos 

Published: 17/10/2018

‘Byddwch yn ddiogel yn y tywyllwch’ yw’r neges glir gan dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint wrth i'r gaeaf agosáu. 

Gyda’r clociau yn mynd yn ôl awr benwythnos nesaf, mae’r newidiadau yn golygu bod y diwrnodau’n mynd yn fyrrach ac yn tywyllu yn gynt, gyda phlant, cerddwyr a beicwyr yn fwy agored i niwed wrth eu bod yn llai gweledol i yrwyr.

Mae rhieni’n cael eu hatgoffa bod boreau a nosweithiau tywyll yn golygu bod plant yn fwy agored i niwed ar ein ffyrdd, ac yn llai gweledol i yrwyr. Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn gwisgo rhywbeth llachar drwy wisgo dillad fflworoleuol ac adlewyrchol wrth gerdded a bod yn hynod ofalus wrth fynd yma ac acw.

Mae’n rhaid atgoffa beicwyr bod seiclo heb y goleuadau cywir yn drosedd, ac y dylent sicrhau bod gan y beic oleuadau – sy’n gallu cael eu gweld gan ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Mae dillad fflworoleuol yn amlwg yn ystod y dydd, yn enwedig pan mae’r tywydd yn llwydaidd ac yn niwlog. Gydol nos, deunydd adlewyrchol sydd orau, gan ei fod yn llachar mewn lampau car. Gellir ychwanegu tâp adlewyrchol i ddillad, bagiau ysgol ac offer hefyd.

Mae gyrwyr yn cael eu hannog i gynllunio eu siwrneiau yn ofalus i ystyried y newid mewn amser gan fod y boreau a’r nosweithiau yn tywyllu’n gynt, a bod yn ymwybodol y gall amseroedd teithio gymryd ychydig yn hirach hefyd.

Dyma rai awgrymiadau gwych ar gyfer defnyddwyr y ffyrdd:

Gyrwyr

• Sicrhau bod goleuadau’n lân, yn gweithio’n iawn ac wedi’u haddasu’n gywir

• Sicrhau bod y ffenestr flaen yn lân tu mewn, a thu allan

• Defnyddio lampau car pan mae lefelau gwelededd llai – yn gynnar yn y bore neu wrth iddi nosi, er enghraifft, neu pan mae hi’n bwrw glaw ac mewn unrhyw amodau tywyll. Bydd hyn yn helpu eraill i dy weld di

• Paid â dallu gyrwyr eraill gyda dy brif oleuadau

• Gostwng dy gyflymder.Dylet allu stopio o fewn y pellter sy’n weledol

• Gwiria gyflwr sychwyr a golchwyr ffenestri

• Gwiria dy frêcs a dy deiars – mae’n hanfodol bod dy frêcs yn gweithio’n effeithiol ar ffyrdd gwlyb a bod gwadnau teiars yn gyfreithlon

• Os yw dy gerbyd yn methu, symuda oddi ar y ffordd cyn belled â phosib, a rho’r goleuadau rhybuddio perygl ymlaen

• Meddylia am ddefnyddio teiars ar gyfer amodau’r gaeaf pan mae’r tywydd yn oer

• Cymer ofal i edrych am feicwyr wrth iddynt droi ar gyffyrdd 

Beicwyr

• Mae’n rhaid gosod goleuadau da ar feics Mae’n drosedd seiclo gydol nos heb olau blaen gwyn, golau coch ar y cefn a stribyn adlewyrchol coch ar y cefn hefyd

• Fe ddylet osod y goleuadau lle gellir eu gweld yn hawdd, heb eu cuddio tu ôl i’r sedd na’r ffrâm

• Mae’n syniad da cario batris a bylbiau newydd rhag ofn y byddant yn methu wrth seiclo

• Os wyt ti’n gweld cerbydau eraill yn defnyddio eu goleuadau, defnyddia dy rai di

• Cymer ofal ychwanegol i wneud dy hun yn amlwg – mae dillad fflworoleuol yn dda ar gyfer y dydd, a dillad adlewyrchol orau ar gyfer y nos

• Gwylia am yrwyr ceir. Cofia bod llai o feicwyr ar y ffyrdd yn ystod y gaeaf, felly efallai y byddai gyrwyr yn llai ymwybodol ohonynt

• Nid traffig yw’r unig berygl yn ystod y nos. Gwylia am arwynebau anwastad, tyllau, anifeiliaid, cerddwyr mewn dillad tywyll a beicwyr eraill heb oleuadau Edrych amdanynt yn ofalus, a rho digon o le iddynt pan rwyt ti’n eu gweld

• Sicrha bod dy adlewyrchwyr yn lân bob amser

• Fe alli di wneud dy feic yn fwy amlwg drwy ychwanegu adlewyrchwyr i freichiau’r olwynion

Cerddwyr

• Sicrha dy fod yn amlwg i draffig bob amser, yn enwedig yn ystod y nos, ac ar ddiwrnodau tywyll ac mewn tywydd gwael

• Mae dillad fflworoleuol yn dangos orau yn ystod y dydd, yn enwedig mewn amodau tywydd llwydaidd neu niwlog

• Gydol nos, mae deunydd adlewyrchol yn amlwg mewn lampau car – nid yw dillad fflworoleuol yn gweithio ar ôl iddi nosi

• Gellir rhoi tâp adlewyrchol ar ddillad, bagiau ysgol ac offer hefyd

• Croesa’r ffordd yn y man mwyaf diogel posib, ar groesfan sebra, pelican, croesfan â goleuadau traffig a rhai sy’n cael eu goruchwylio

• Defnyddia Rheolau'r Groes Werdd. Stopio, Edrych, Gwrando, Byw

• Os wyt ti allan yn ystod y nos, dewis lwybrau gyda digon o oleuadau stryd a chroesa wrth fannau wedi’u goleuo.