Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith yn dechrau ar adeiladu ysgol 

Published: 05/10/2018

Ysgol Glan Aber 02.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod gwaith yn dechrau ar Ysgol Glan Aber, Bagillt i wella darpariaeth addysg yn yr ardal.   

Bydd Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi dros £2.3m i drawsnewid Ysgol Glan Aber yn ysgol sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif. Mae hyn yn cynnwys £1.3m o nawdd Llywodraeth Cymru i ostwng maint dosbarthiadau babanod trwy greu ystafell ddosbarth ychwanegol, a fydd yn caniatáu’r athrawon roi mwy o amser a sylw unigol i bob un o’u disgyblion.  Bydd y nawdd hefyd yn darparu neuadd newydd a chyfleusterau bwyta.

Mae’r Cyngor wedi penodi cwmni lleol Kier Construction, a leolir yn Wrecsam i ymgymryd â’r gwaith gwella hwn.    Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint fel rhan o raglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor.      

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

 “Mae’r gwaith gwelliant hwn yn fuddsoddiad pwysig yn Ysgol Glan Aber ac yn dangos bod Cyngor Sir y Fflint, er ei fod yn gyngor cyllid isel, yn gallu diogelu arian i wella a diweddaru ein hysgolion.  Bydd y cyfleusterau modern hyn ar gyfer ein pobl ifanc a’r gymuned ehangach yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig newydd i’n plant ysgol.”

Dywedodd Peter Commins, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Construction Gogledd-Orllewin Lloegr:

"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y prosiect hwn gan Gyngor Sir y Fflint, sy’n dangos ein cryfder mewn darparu prosiectau addysg ar draws Gogledd Cymru.  Bydd y gwaith hwn i’r ysgol bresennol a chyfleuster yr adeilad newydd yn darparu llawer o fanteision i’r ysgol a’r gymuned leol am nifer o flynyddoedd i ddod.   Bydd y prosiect hwn hefyd yn rhoi cyfleoedd i fusnes lleol yn ystod y gwaith adeiladu a chynhelir digwyddiad cwrdd â'r prynwr i ymgysylltu ymhellach â’r gadwyn gyflenwi leol."

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru:

“Rwyf wrth fy modd o glywed fod gwaith yn dechrau ar y cyfleusterau newydd yn Ysgol Glan Aber, a fydd yn golygu maint dosbarthiadau babanod llai gyda'r nod cyffredinol o wella canlyniadau.

“Mae ymchwil a thystiolaeth ledled y byd yn dweud wrthym fod cysylltiad cadarnhaol rhwng maint dosbarthiadau llai a chyrhaeddiad, yn enwedig ar gyfer ein disgyblion ieuengaf, a’r rheiny o gefndiroedd llai cefnog yn benodol, a’r rheiny ag anghenion ychwanegol.

“Mae Ysgol Glan Aber yn ymgeisydd blaenllaw ar gyfer y nawdd, gyda chyfuniad o ddosbarthiadau mawr ar gyfer babanod a nifer sylweddol o ddisgyblion gydag anghenion ychwanegol. 

“Bydd buddsoddi mewn cyfleusterau newydd ac ystafell ddosbarth newydd yn golygu dosbarthiadau llai a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan ganiatáu i athrawon roi mwy o amser a sylw unigol i bob un o’r disgyblon, a rhoi lle i ddysgwyr ddysgu mewn dosbarth modern wedi’i ddylunio’n dda.”