Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg ffôn yn Sir y Fflint

Published: 02/10/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnwys arolwg ffôn am arferion siopa.

Mae cwmni NEMS Market Research wedi cael ei gomisiynu i gynnal yr arolwg, a ddechreuodd ar 26 Medi 2018.

Deallwn bod dryswch wedi bod ynghylch cyfreithlondeb yr arolwg hwn a hoffem ymddiheuro am gyfraniad y Cyngor at y dryswch hwnnw. 

Hoffem sicrhau preswylwyr nad sgiâm yw’r arolwg hwn ac rydym yn annog cymaint o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan.  Mae’r wybodaeth a gesglir yn rhan o Astudiaeth Cynhwysedd Manwerthu er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth o arferion siopa trigolion Sir y Fflint.  Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i lunio’r Cynllun Datblygu Lleol. 

Mae’r arolwg wedi’i anelu at y person sy'n siopa ar gyfer y cartref fel arfer.  Bydd y cwestiynau’n ymwneud â siopa am fwyd a nwyddau eraill a bydd yn cymryd tua chwech i saith munud i'w gwblhau.

Mae’r cartrefi a ddewiswyd i gymryd rhan yn yr arolwg wedi cael eu dewis ar hap. Ni chesglir unrhyw wybodaeth bersonol a gallech dderbyn galwadau yn ystod y dydd, gyda’r nos neu ar benwythnosau. 

Os hoffech unrhyw eglurhad pellach am yr arolwg ffoniwch 01352 703213 i siarad â swyddog yn y Tîm Polisi Cynllunio.