Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Enwi’r Cymunedau Taclusaf 2018

Published: 27/09/2018

Group.jpgLlun: Y Cadeirydd, y Cynghorydd Paul Cunningham a’i Gymar Mrs Joan Cunningham gyda’r enillwyr, y noddwyr a gwleidyddion lleol

 

 

 

 

 

Mae enillwyr pob categori ar gyfer Cymunedau Taclusaf Sir y Fflint 2018 wedi derbyn eu gwobrau mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir yn ddiweddar.

Yr enillydd ar gyfer y pentref taclusaf gyda phoblogaeth o dan 1,000 oedd Llanfynydd gyda Llanasa yn ail. Cipiodd Bretton Lane ac Ysgeifiog y drydedd wobr. Caerwys oedd enillydd y gymuned daclusaf gyda phoblogaeth o dros 1000 ac o dan 5000, gyda Llaneurgain yn cael yr ail wobr. Daeth Coed-llai yn drydedd. Yr Wyddgrug a Mynydd Isa oedd cyd enillwyr y canol tref taclusaf.

Enillydd ystâd yr henoed taclusaf oedd Llys y Goron Caerwys, gyda’r ail wobr yn mynd i Belvedere Close, Queensferry. Daeth Heol y Dderwen, Coed-Llai yn drydydd.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Cunningham:

 “Mae nifer a safon y ceisiadau wedi bod yn wych eleni, fel arfer. Rwy’n sicr bod y beirniaid, Mr Les Starling a Mrs Nancy Matthews wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd wrth ddewis yr enillwyr. Nod y gystadleuaeth yw annog cymunedau lleol, pentrefi a threfi i gydweithio i wella eu hamgylchedd a hybu balchder lleol.  Dyma nod teilwng a chanmoladwy iawn, ac yn un rwy’n ei gefnogi’n llwyr.

 “Rwy’n siwr fy mod yn siarad ar ran sawl un wrth ddweud bod yr ymdrechion hyn a’r ymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth i wneud Sir y Fflint yn lle gwell i fyw.

Mae’r gystadleuaeth ond yn digwydd oherwydd y bobl sy’n cymryd rhan ac oherwydd y noddwyr, ac eleni nhw yw Airbus, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Tesco, Toyota Motor Manufacturing (UK) a Warwick Chemicals. Diolch arbennig i Mr Glyn Jones o Lindop Toyota am gael defnyddio’r car.  Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus.”

Mae'r enillwyr eraill wedi eu rhestru isod.

Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf:

Y wobr gyntaf: Neuadd Bentref a Gardd Gymunedol Pantymwyn

Yr ail wobr: Chwarel Bryn y Baal

Y drydedd wobr: Y Fynwent, Alexander Road, Yr Wyddgrug

Dyfarnwyd gwobrau i’r ysgolion canlynol:

Y wobr gyntaf: Ysgol Gynradd Brynffordd

Yr ail wobr: Ysgol Fabanod Clawdd Wat, Mynydd Isa                                   

Yn gydradd drydydd: Ysgol Derwenfa, Coed-Llai ac Ysgol Iau Mynydd Isa

Dyfarnwyd tystysgrifau Teilyngdod i Ysgol Gynradd yr Esgob, Caerwys ac Ysgol Owen Jones, Llaneurgain