Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn ymweld â menter gymdeithasol go wahanol

Published: 25/09/2018

Aeth Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates i ymweld â Double Click Print and Design yn Shotton yn ddiweddar. 

Mae Double Click yn wasanaeth gwaith adfer iechyd meddwl ac yn fenter gymdeithasol sy’n darparu dylunio graffeg a gwasanaethau argraffu wrth ddarparu cyfleoedd i bobl dan hyfforddiant ddatblygu sgiliau newydd mewn amgylchedd sy’n eu meithrin.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu gweld y cynnydd mae Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud i ddarparu mentrau cymdeithasol arloesol ac effeithiol, sy’n cynnwys Double Click.  Fe lansiodd Bartneriaeth Menter Gymdeithasol Sir y Fflint hefyd, a chael cyfle i gyfarfod Grwp Llywio’r bartneriaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’n wych gallu dangos i Ysgrifennydd y Cabinet yr holl waith arbennig sy’n digwydd yn Sir y Fflint a chael cyfle i esbonio pwrpas y bartneriaeth a disgrifio'r gweithgareddau sydd ar y gweill yn y sector menter gymdeithasol yn Sir y Fflint.  Mae cael Ysgrifennydd y Cabinet yn lansio’r Bartneriaeth yn ffurfiol yn dangos y rôl bwysig mae Mentrau Cymdeithasol yn ei chwarae yn economi Sir y Fflint.”

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Roedd yr ymweliad yn gyfle i ddangos Ysgrifennydd y Cabinet ein gwasanaeth ‘Microcare’ a thrafod sut y gellir cefnogi’r sector Gofal Cymdeithasol pe bai’n cael ei drin fel sector economaidd i atynnu nawdd yn benodol i’r sector.”

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Roedd yn bleser cael ymweld â Double Click a gweld eu gwaith arbennig i ddarparu hyfforddiant a gwaith mewn amgylchedd sy'n cefnogi ac yn meithrin. 

“Mae’r math hon o gefnogaeth yn hanfodol wrth helpu pobl a allai deimlo'n unig yn y byd gwaith i ddod dros eu rhwystrau i weithio a byw bywydau iach a gwerthfawr. Mae gwaith Double Click hefyd yn adlewyrchu nodau ein Cynllun Cyflogaeth a’n Cynllun Gweithredu Economaidd yn nhermau rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl a chefnogi eu hiechyd a’u lles yn y gweithle.   

“Rhoddodd yr ymweliad gyfle gwych i mi ddod o hyd i fwy am Bartneriaeth Menter Gymdeithasol Sir y Fflint a’i gynlluniau i yrru twf economaidd lleol drwy weithio ar y cyd.  Rwy’n edrych ymlaen ar weld canlyniad y bartneriaeth hon yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod."

Ken Skates visit GROUP 11.jpg