Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Coffâd i Frederick Birks

Published: 21/09/2018

Cafodd digwyddiad coffâd ei gynnal yn ddiweddar i un o ddau o bobl yn unig o Sir y Fflint a dderbyniodd y Groes Fictoria yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Ganwyd yr 2il Lt Frederick Birks, VC, MM ym Mwcle ar 16 Awst 1894.  Ar ôl ymfudo i Awstralia yn 1913, ymrestrodd yn Llu Imperialaidd Awstralia yn 1914.

Derbyniodd Groes Fictoria am y camau a gymerodd ar 20 Medi 1917, y diwrnod cyn iddo gael ei ladd gan siel wrth iddo geisio achub ei ddynion.  Tra’n symud ymlaen yng Nghoedwig Glencorse, Ypres, Gwlad Belg, roedd Lt Birks yn brwydro yn erbyn ergyd gwn peiriant a bomiau, gan orfodi i garsiwn oroesi ac aeth ymlaen i gipio 16 dyn mewn ymosodiad arall.

Y Groes Fictoria yw’r dyfarniad uchaf a mwyaf mawreddog ar gyfer dewrder y gellir ei dyfarnu i luoedd Prydeinig a’r Gymanwlad; cafodd 628 Croes Fictoria eu dyfarnu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint:

“Fel un o ddau o bobl yn unig o Sir y Fflint wnaeth dderbyn y Groes Fictoria yn ystod y Rhyfel Mawr, mae hwn yn achlysur arbennig iawn i  anrhydeddu ei ddewrder a darparu gwaddol parhaol yn y gymuned.

“Ym mlwyddyn canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae'n bwrpasol ac addas i ni anrhydeddu'r holl bobl sydd wedi aberthu eu bywydau a'u cofio am byth."

Dywedodd Maer Cyngor Tref Bwcle, y Cynghorydd David Ellis:

“Mae Cyngor Tref Bwcle yn falch ac yn teimlo ei bod yn anrhydedd cael y Cerrig Coffa yng Ngerddi’r Coroni, Bwcle a hefyd yn falch y bydd y Gerddi, ar yr un pryd yn ymroddedig fel Maes Chwarae Cymru.”

Cynhaliwyd rhan gyntaf y coffâd yng Ngerddi’r Coroni ym Mwcle gyda’r Gerddi wedi eu dynodi’n ffurfiol yn Gae Canmlwyddiant, gan warchod y gofod er cof am bawb sydd wedi brwydro a cholli eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.   

Ar ôl cysegru cerrig coffaol y Groes Fictoria, gwahoddwyd gwesteion i Ysgol Gymunedol Westwood ar gyfer perfformiad gan ddisgyblion oedd wedi ymchwilio bywyd Frederick Birks V.C, M.M.   

Yn olaf, cafodd carreg goffa Frederick Birk ei bendithio yn Eglwys Sant Mathew, Bwcle. 

Roedd aelodau a swyddogion o Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Bwcle wedi mynychu’r digwyddiad, gyda theulu Frederick Birk, Uchel Gomisiwn Awstralia, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Meysydd Chwarae Cymru a Grwp Llywio Lluoedd Arfog Sir y Fflint.

Fred Birks Buckley 08.jpg