Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Corff Cymeradwyo (SAB) Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)

Published: 26/09/2018

Gwneir cais bod Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cymeradwyo sefydlu Corff Cymeradwyo SuDS (SAB) i ymgymryd â swyddogaeth statudol newydd pan ddaw Atodlen 3 y Deddf Rheoli Llifogydd a Dwr Gwastraff i rym ar 7 Ionawr 2019.

Bydd yn ofynnol i’r SAB gynnal adolygiad technegol a chymeradwyo systemau rheoli dwr wyneb datblygiadau newydd er mwyn sicrhau cydymffurfiad â safonau cenedlaethol gorfodol newydd. 

Mae’r rhai y bydd y newid hwn yn effeithio arnynt yn cynnwys datblygwyr a’u dylunwyr, peirianwyr ymgynghorol, cynllunwyr awdurdodau lleol, peirianwyr priffyrdd a draenio, ymgynghorai statudol a’r rhai hynny sy’n gyfrifol am reoli mannau gwyrdd.

Mae disgwyl hir wedi bod am Atodlen 3. Mae egwyddor y SuDS a chread y SAB wedi’i gefnogi gan Sir y Fflint fel Awdurdod Lleol Arweiniol ar y Perygl o Lifogydd.

Yng ngoleuni’r ffaith y disgwylir i hyn oll ddod  i rym mis Ionawr 2019, roedd y gorchmynion a’r rheoliadau angenrheidiol i fod yn barod ac wedi’u cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol erbyn mis Mehefin 2018.  Fodd bynnag nid yw hyn wedi digwydd eto a gofynnir i’r Cabinet gytuno bod llythyr yn cael ei anfon at yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol yn gofyn am estyniad i’r dyddiad gweithredu. Byddai’r estyniad hwn yn caniatau i Awdurdodau Lleol fod a’r adnoddau cywir yn eu llw i’w galluogi nhw i gynllunio ar gyfer, a gweithredu SAB yn effeithiol.

Gofynnir i’r Cabinet hefyd gytuno bod y llythyr hwn yn cael ei anfon at Awdurdodau Lleol eraill er mwyn annog cefnogaeth gyffredin dros yr estyniad amser hwn.

Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd:

“Bydd y SAB yn gorff annibynnol o fewn y Cyngor.  Yn hanesyddol mae rheoli draeniad  dwr wyneb mewn datblygiadau newydd wedi digwydd drwy'r broses gynllunio. Fodd bynnag mae’r dull hwn wedi’i ystyried yn un problemus ers tro, gydag anawsterau’n codi o ganlyniad i  anghysondebau mewn safonau dylunio, ansawdd adeiladwaith a threfniadau cynnal a chadw.

“Nod draenio confensiynol yw cludo dwr i ffwrdd o ddatblygiad drwy systemau peipio sydd yn aml yn achosi llif gormodol mewn cyrsiau dwr yn is i lawr, gan waethygu problemau llifogydd mewn  mannau eraill.  Mae’r dull SuDS yn anelu at drin dwr glaw gyda thechnegau fel ymdreiddiad, a dulliau cadw dwr uwchben y ddaear sy’n dynwared rhediad oddi ar y safle yn ei gyflwr naturiol gan roi cyfle i gynnwys elfennau amwynder bioamrywiaeth a lleihau llygredd  yn y dyluniad.

“Cyn gweithredu hyn, byddwn yn rhedeg gweithdai ar gyfer datblygwyr a swyddogion ac aelodau er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r newidiadau sydd ar ddod.”