Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol

Published: 25/09/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi'r fframwaith newydd gan Estyn i arolygu gwasanaethau addysg a, hefyd, adolygu a chymeradwyo'r Adroddiad Hunanwerthuso ar gyfer Gwasanaethau Addysg Sir y Fflint pan fydd yn cyfarfod yn nes ymlaen y mis hwn.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol o’i wasanaethau addysg ar gyfer plant a phobl ifanc, a’i brif bwrpas yw sicrhau’r canlyniadau gorau bosib’ i blant a phobl ifanc.

Mae'r awdurdod lleol yn adnabod ei ysgolion yn dda ac mae’n eu herio ac yn eu cefnogi ac yn ymyrryd â nhw'n gadarn a phriodol. Mae strategaethau, polisïau a phrosesau clir sy’n ddealladwy i staff ac sy’n rhoi amlinelliad a chyfeiriad clir i’r gwasanaeth. Mae’r awdurdod yn cynnal ystod eang o weithgareddau hunanwerthuso yn dadansoddi data a thystiolaeth o lygad y ffynnon i lunio gwerthusiadau cywir o ansawdd ac effaith y gwasanaethau. Mae’r trefniadau hefyd yn nodi meysydd i’w gwella yn glir ac maent yn helpu i sicrhau bod cynnydd ochr yn ochr â chynlluniau strategol a rhai eraill yn cael ei adolygu’n effeithiol a bod ymyraethau’n cael eu cyflawni’n amserol

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: 

“Mae hunanwerthuso’n broses sy'n cynnwys pob budd-ddeiliad yn hytrach na’r uwch-reolwyr yn unig ac mae hunanwerthusiad Sir y Fflint yn un parhaus ac yn rhan greiddiol o waith yr Awdurdod Lleol. Man cychwyn unrhyw arolwg gan Estyn fydd yr adroddiad hunanwerthuso bob tro, felly mae’n ddogfen allweddol.

 “Mae’r hunanwerthusiad yn adlewyrchiad cadarnhaol ar addysg yn y sir. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi datblygu dull da iawn o reoli ei gyllideb sy’n ei alluogi i ganolbwyntio ar barhau i gyflawni ei flaenoriaethau. Mae’r berthynas gydag ysgolion yn un dda. Mae cyfarfodydd rheolaidd â phenaethiaid a’r grwpiau partneriaeth ar strwythur ymgynghorol yn creu system effeithiol i godi materion a chytuno ar gamau i fynd i'r afael â nhw."

Mae’r Adroddiad Hunanwerthuso’n nodi cryfderau’n glir, yn ogystal â meysydd i’w gwella, ond nid yw’n anwybyddu'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â chwtogi cyllid i wasanaethau llywodraeth leol a'r ansicrwydd ynglyn â chyllid grant sy'n sylfaen i gyfran sylweddol o'r ddarpariaeth addysg.

Cynnal a darparu gwasanaethau addysg o safon uchel gyda llai a llai o adnoddau yw’r her fwyaf sy’n wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd, ac mae'n dibynnu'n helaeth ar sgiliau a gwytnwch ei arweinwyr o fewn y Cyngor ei hun, o fewn y Portffolio Addysg ac Ieuenctid ac o fewn ei ysgolion a'i leoliadau.

Ym mis Medi 2017, cyflwynodd Estyn fframwaith newydd i arolygu gwasanaethau addysg llywodraeth leol. Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru’n cael ei arolygu dros y 5 mlynedd wedyn ac 1 ALl fesul rhanbarth bob blwyddyn.

Bydd Awdurdodau Lleol yn cael wyth wythnos o rybudd cyn arolwg. Bydd Estyn hefyd yn casglu gwybodaeth ychwanegol gan gyrff eraill e.e. Swyddfa Archwilio Cymru a’r Arolygiaeth Safonau Gofal, cyn arolwg.