Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae cynllunio’n siwrnai allweddol ar eich ‘Llwybr Llwyddo’

Published: 20/09/2018

Mae rhagor o ddyddiadau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer dau Glwb Menter yn Sir y Fflint. 

Gall mynd i un o’r Clybiau yma roi cymorth i unrhyw entrepreneur addawol gyrraedd y cam nesaf – p’un a ydych chi newydd gychwyn arni neu'n fusnes sefydledig sy’n chwilio am syniadau newydd ac ysbrydoliaeth. 

Mae’r Clybiau yn rhad ac am ddim ac maent yn gwahodd siaradwyr a chynghorwyr o asiantaethau eraill. Mae'r sesiynau bob amser yn gyfeillgar, yn llawn gwybodaeth ac yn llawn egni, cydweithio, ysbrydoliaeth a syniadau! 

Mae cynllun busnes da’n sicrhau eich bod chi’n cadw ar y trywydd cywir i gyflawni eich amcanion a’ch uchelgeisiau.  Mae hefyd yn adnodd marchnata ac yn ddogfen weithio y gallwch gyfeirio ati hi’n rheolaidd i edrych ar eich cynnydd.  Yn ystod y sesiynau, byddwn yn canolbwyntio ar drosolwg o gynllun busnes i weld beth i’w gynnwys ym mhob adran ac ar greu cynllun busnes syml, manwl a realistig. 

Mae’r Clwb Menter yn Shotton yn cyfarfod pob pythefnos ar ddydd Gwener yn y Ganolfan “Place for You”, Rowleys Drive, Shotton, CH5 1PY o 10:30am tan 12:30pm.  Bydd yn cyfarfod yno ar 28 Medi, 12 a 26 Hydref, 9 a 23 Tachwedd a 7 Rhagfyr.  

Mae’r Clwb Menter ger Treffynnon yn Cyfarfod pob pythefnos ar ddydd Mercher yng Nghanolfan fusnes Maes-glas ar Greenfield Road, CH8 7GR o 10:30am tan 12:30pm.  Bydd yn cyfarfod yno ar 3 Medi, 17 a 31 Hydref, 14 a 28 Tachwedd a 12 Rhagfyr.

Os hoffech gofrestru, cysylltwch â Beverly Moseley ar beverly.moseley@flintshire.gov.uk neu 01352 704430.