Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliad y teithwyr amser o’r hydref

Published: 17/09/2018

Mae Archifdy Sir y Fflint unwaith eto’n gwahodd teithwyr amser ifanc i gael hwyl ac i ddysgu.

Bydd y Teithwyr Amser Bach yn dathlu’r hydref dros sawl dydd Mercher fis Medi a mis Hydref.

Sesiynau awr o hyd fydd y rhain, yn dechrau am 10:30am ar 19 a 26 Medi a 10, 17 a 31 Hydref yn yr Archifdy ym Mhenarlâg.  Bydd yno thema wahanol bob wythnos, gan ddechrau gyda “Marchogion, Cestyll, Tywysogesau a Dreigiau”.

Mae croeso i fabanod a phlant hyd at 7 oed ddod gyda’u rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid i gael hwyl yn dysgu am hanes trwy luniau, storïau, crefftau a cherddoriaeth.

Bydd y sesiwn yn para awr ac mae'r cyfan yn rhad ac am ddim.

Mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw, felly peidiwch ag oedi!  I gadw’ch lle, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01244 532364.