Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad o Gam 2 Adolygiad Terfyn Cyflymder

Published: 13/09/2018

Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma ar Gam 2 Adolygiad Terfyn Cyflymder pan fydd yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn. 

Bydd gofyn i’r Pwyllgor hefyd gefnogi’r broses gyfreithiol ddiwygiedig er mwyn symud ymlaen â'r Un Gorchymyn wedi'i Gydgrynhoi. Bydd y Gorchymyn hwn yn sicrhau bod gorchmynion terfyn cyflymder yn y Sir yn addas ac yn gyfreithiol a bydd hefyd yn egluro pa geisiadau gan gynghorwyr, am derfynau cyflymder diwygiedig yn eu wardiau, a gefnogwyd gan feini prawf cenedlaethol yr Adran Drafnidiaeth. 

Mae’r dasg o hysbysebu’r holl derfynau cyflymder yn y Sir (terfynau cyflymder presennol ac arfaethedig) yn anferthol ac i symleiddio’r broses mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio i ddatblygu  gorchmynion ar fap modern (yn hytrach na’r hen ddull o ysgrifennu gorchmynion).  Mae’r gwaith bellach wedi dod i ben ac mae hefyd yn cynnwys Llyfrau Map ar gyfer amryw o leoliadau, er mwyn i’r cyhoedd allu canfod unrhyw ardal o ddiddordeb. 

Mae arolwg pellach wedi’i gynnal i gofnodi effaith goleuadau stryd ar ffyrdd â therfynau cyflymder 60mya a 30mya a fydd yn galluogi swyddogion i benderfynu pa derfynau cyflymder a reoleiddir gan “ddiffyg Goleuadau Stryd” a pha derfynau fydd angen eu rheoleiddio gan Orchymyn. 

Rhagwelir y bydd yr un Gorchymyn yn cael ei hysbysebu ar ddechrau 2019. 

O ran ceisiadau gan Gynghorwyr a gefnogwyd gan feini prawf yr Adran Drafnidiaeth, bydd y Cyngor yn hysbysebu’r 15 terfyn cyflymder ym mis Tachwedd 2018, oni bai am y terfyn cyflymder ar yr A5119 Ffordd Llaneurgain, Mynydd Y Fflint a fydd yn cael ei hysbysebu’r mis hwn (Medi 2018). 

Pan fydd yr un Gorchymyn wedi'i Gydgrynhoi wedi’i sefydlu, cynhelir adolygiad pum mlynedd o’r holl derfynau cyflymder presennol o fewn y sir (ac eithrio ardaloedd sydd eisoes wedi’u harchwilio o fewn ceisiadau Cynghorwyr) i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â meini prawf yr Adran Drafnidiaeth gydag unrhyw adolygiad yn cael ei wneud drwy ddiwygio’r prif Orchymyn wedi'i Gydgrynhoi.

Dywedodd Y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad: 

“Mae yna anghywirdebau yn rhai o’r gorchmynion terfynau cyflymder oherwydd newidiadau i elfennau o’r rhwydwaith ffyrdd a oedd yn arfer dynodi dechrau a diwedd y gorchmynion gwreiddiol. 

“Wrth symud tuag at greu un Gorchymyn terfynau cyflymder wedi'i gydgrynhoi rydym ni’n gallu symleiddio’r broses gymhleth a defnyddio ein hadnoddau yn fwy effeithiol i fynd i'r afael â'r anghywirdebau presennol. 

“Bydd creu system fap electronig yn chwarae rhan allweddol wrth ddod â’r hen broses ysgrifennu Gorchmynion i ben, gan alluogi gweld a hysbysebu terfynau cyflymder yr Awdurdod ar ffurf map syml a hawdd i’w ddeall.”