Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn lansio Cynllun Coed a Choetir Trefol

Published: 11/09/2018

trees2updated.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi ei Gynllun Coed a Choetir Trefol gyntaf.

Mae’r Cynllun yn amlinellu sut fyddwn yn rheoli coed yn Sir y Fflint a hefyd, yn nodi gweledigaeth strategol ar gyfer plannu coed ar draws y Sir, gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd trefol.

Gall goed gael effaith gadarnhaol ar ardaloedd trefol o ran estheteg a'r economi, rheoli llygredd ac oeri yn yr haf. Mae gan fannau gwyrdd, gwyllt nifer o fanteision, er enghraifft, lleihau llifogydd dwr wyneb a llygredd swn a gwella'n hiechyd meddwl.

Caiff y cynllun ei lansio’n swyddogol ar Ddiwrnod Coed, dydd Sadwrn 29 Medi yng nghanolfan ymwelwyr Parc Gwepra o 11am i 3pm.   Bydd mwy o wybodaeth am y prosiectau yr ydym yn gweithio arnynt ar gael, a bydd cyfle i chi ymuno â’r Ceidwaid a’r tîm cadwraeth am deithiau cerdded tywysedig a gweithgareddau yn ymwneud â choed.

Mae’r Cyngor wedi cael cyllid grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i ddechrau gwaith i greu cysylltiadau gwyrdd ar draws y Sir.

trees1updated.jpgDywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

 “Yn yr hirdymor, ein gobaith yw gwella mannau gwyrdd fel eu bod yn darparu’r manteision mwyaf i bobl ac i natur. Rydym yn falch o lansio ein cynllun coed cyntaf erioed i Sir Ddinbych yn swyddogol, ar Ddiwrnod Coed ym Mharc Gwepra.  Mae’n wych ein bod wedi derbyn cyllid grant i ddechrau gweithio tuag at y nod ar unwaith, gan gynyddu'r nifer o goed mewn ardaloedd trefol.”

Dros y flwyddyn nesaf, bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn gweithio gyda chynghorau lleol a chymunedau i nodi a chytuno ar nifer fechan o safleoedd trefol ar gyfer plannu coed a blodau gwyllt. Cafodd ardaloedd peilot allweddol yng Nghei Connah, Brychdyn a Saltney eu dewis trwy ymchwil ar orchudd coed yn y cynllun coed. Nid yw gwaith wedi’i gyfyngu i’r ardaloedd hyn, a byddwn yn ystyried mannau trefol eraill ar gyfer ardaloedd blodau gwyllt neu blannu coed.

Byddwn hefyd yn cynnal Diwrnod Perllan ym Mharc Gwepra ddydd Sul 14 Hydref 11am – 3pm lle gallwch ddarganfod mwy am blannu a rheoli perllan, impio a gwasgu afalau.

Gallwch weld y cynllun trwy ymweld â’n gwefan ar http://www.siryfflint.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Countryside-and-Coast/Trees.aspx.