Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod olaf marchnad y Fflint

Published: 22/08/2018

Yn dilyn adolygiad o farchnadoedd stryd yn gynharach eleni, penderfynwyd cau marchnad y Fflint yn barhaol.

Diwrnod olaf marchnad y Fflint fydd dydd Gwener, 14 Medi 2018.  

Mae’r dirywiad mewn marchnadoedd stryd ar draws y DU ers nifer o flynyddoedd.  Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynaliadwyedd marchnad y Fflint wedi bod o dan fygythiad oherwydd y nifer fechan o fasnachwyr a'r nifer cyfyngedig o gwsmeriaid oedd yn mynychu.

O ddydd Gwener, 21 Medi, bydd Stryd yr Eglwys yn parhau ar agor fel bob diwrnod arall.

Nid yw'r penderfyniad wedi bod yn un hawdd i'r Cyngor a hoffai ddiolch i'r masnachwyr a chwsmeriaid sydd wedi parhau i gefnogi'r farchnad, ond gyda'r niferoedd yn lleihau i'r pwynt lle nad oedd yn ariannol hyfyw, bydd diwrnod olaf y farchnad ar 14 Medi.