Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn Anrhydeddu Diwrnod y Llynges Fasnachol

Published: 03/09/2018

Group shot.jpg

Cododd Cyngor Sir y Fflint y Lluman Coch heddiw, 3 Medi, i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol.  Mae’r Cyngor yn falch o ddangos cefnogaeth i forwyr y mae'r DU yn dibynnu arnynt.

Ers 2000, mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr a fu’n gwarchod ein hynys yn ystod y ddau Ryfel Byd.  Rydym hefyd yn dathlu ein dibyniaeth barhaus ar forwyr masnachol presennol sy’n gyfrifol am 95% o fewnforion y DU, gan gynnwys llawer o’r bwyd rydym yn ei fwyta, y rhan fwyaf o’r tanwydd rydym yn ei losgi, a bron yr holl gynnyrch a’r nwyddau rydym yn eu cymryd yn ganiataol.

Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint:

 “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i’r Cyfamod Lluoedd Arfog.  Fel teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth ein morwyr heddiw a morwyr y gorffennol, rydym yn falch o godi’r Lluman Goch i gefnogi Diwrnod y Llynges Fasnachol.  Mae gan y Llynges Fasnachol ran bwysig yn ein hanes fel ynys ac mae hi’n dal i gludo cyflenwadau hanfodol yn ddiogel at ein glannau."

Photo 3.JPGDywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham:

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o sefyll gyda sefydliadau eraill i gefnogi ein Llynges Fasnachol.  Rydym wedi bod yn nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol ers sawl blwyddyn a chodi’r Lluman Coch yw ein cydnabyddiaeth flynyddol o’n cefnogaeth iddynt.”

Mae'r holl gynghorau lleol sy'n cymryd rhan wedi'u hychwanegu at “Restr Anrhydedd” Diwrnod y Llynges Fasnachol ar https://www.merchantnavyfund.org/merchant-navy-day/