Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Merched Sir y Fflint y gorffennol a'r presennol - Digwyddiad Drysau Agored yn Archifdy Sir y Fflint, Penarlâg, Dydd Sadwrn 15 Medi 2018

Published: 20/08/2018

Bydd Archifdy Sir y Fflint yn cynnal digwyddiad cyffrous, 'Dathlu Merched Sir y Fflint, Ddoe a Heddiw’ yn yr Hen Reithordy, Penarlâg, ddydd Sadwrn 15 Medi 2018. Mae'r thema yn clymu i mewn â'r canmlwyddiant pleidlais i ferched, 1918 ac yn anelu i ddathlu llwyddiannau merched Sir y Fflint ddoe a heddiw. Bydd arddangosfa newydd am hanes Merched Sir y Fflint ar gael i’w weld ar y diwrnod, wedi’i ymchwilio a’i gasglu o Archifdy Sir y Fflint.

Bydd cyfle hefyd i gyfarfod merched o Grwpiau Cymunedol lleol yn cynnwys Sefydliad y Merched Yr Wyddgrug a Phenarlâg.; Townwomen’s Guild Bwcle; Soroptomist yn Sir y Fflint; a The Order of Women Freemasons.  Bydd y grwpiau yn cynnal stondinau yn y digwyddiad, lle gallwch ddarganfod mwy am beth y maent yn ei wneud - pwy a wyr, efallai y cewch eich denu i ymuno!

Am 12.45 bydd Côr Mountain Harmony Ladies' Barbershop yn perfformio agoriad dyrchafol i'r digwyddiad.  Yn dilyn hynny, bydd trafodaeth ddiddorol am Ferched Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru, Dinbych, gan Lindsey Sutton, Archifydd Prosiect yn Archifdy Sir Ddinbych am 1.15pm. Mae Lindsey wedi ymgymryd â’r swydd heriol, ond cyffrous, o gatalogio cofnodion Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru i’w gwneud nhw ar gael i’r cyhoedd, a byddwn yn trafod merched yn yr Ysbyty Meddwl, a rhai o'r straeon pam y cawsant eu cloi i ffwrdd. Rhaid archebu eich lle ar gyfer y drafodaeth, ffoniwch 01244 532364 neu e-bostio: archives@flintshire.gov.uk i sicrhau eich lle.

Am 2.00pm bydd egwyl am de blasus a chacennau cartref tra byddwch yn crwydro stondinau’r grwpiau. Bydd actor wedi gwisgo fyny yn ail-greu Swffragét yn ymuno â chi i drafod y symudiad ac i ateb eich cwestiynau am ymgyrch pleidlais y merched dros 100 o flynyddoedd yn ôl. Am 3.15, bydd Joan Williams yn darparu trafodaeth ddifyr ‘mewn cymeriad’ am Emmeline Pankhurst, arweinydd y symudiad Swffragét. Rhaid archebu eich lle ar gyfer y drafodaeth, ffoniwch 01244 532364 neu e-bostio: archives@flintshire.gov.uk i sicrhau eich lle.

Dyma ddiwrnod o ddathlu, a chewch ddysgu mwy am ferched Sir y Fflint dros y canrifoedd, cyfarfod merched gweithredol yn y gymuned leol heddiw, a mwynhau awyrgylch adeilad Hen Reithordy’r 18fed Ganrif, a arferai fod yn gartref i Reithoriaid Penarlâg gan gynnwys Stephen Gladstone, mab y Prif Weinidog W.E. Gladstone.