Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Teithio Llesol

Published: 08/08/2018

 

Yn dilyn gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno ceisiadau drwy’r Gronfa Teithio Llesol, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus o ran cael arian i ddarparu Teithio Llesol strategol a gwelliannau seilwaith bws ar Parkway (Parth 2), Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a chysylltiadau cerdded a beicio yn Nhref Treffynnon.

 

Mae’r cyflwyniadau yn dilyn cymeradwyaeth lwyddiannus Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol y Cyngor yn 2017 ac roedd cynllun gwella Dyffryn Maes Glas yn ffurfio rhan ohono.

 

Dywedodd Aelod Cabinet yr Amgylchedd, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

 

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cael arian Llywodraeth Cymru i ddarparu’r prosiectau seilwaith Teithio Llesol hyn sydd mawr eu hangen. Mae’r Cyngor yn ymchwilio ffyrdd o gynyddu lefelau cerdded a beicio yn barhaus a bydd darparu’r arian hwn yn cyfrannu’n fawr at gyrraedd y nod hwn. Bydd lefelau uwch o gerdded a beicio yn gwella iechyd a lles ein cymunedau a hefyd yn helpu i wella ansawdd aer.

"Hoffwn dalu teyrnged i’n tîm bach o swyddogion sydd wedi gweithio’n galed i roi cynlluniau da at ei gilydd gan arwain at  lwyddiant mewn sicrhau arian grant gan Lywodraeth Cymru."