Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dewch i gwrdd â’r tîm lleol sy’n dod o hyd i ofalwyr maeth yn Sir y Fflint

Published: 20/08/2018

Fostering Team 01.jpgYn Sir y Fflint y llynedd, daeth 69 o blant lleol i ofal maeth. Roedd hyn yn cynnwys 20 o fabis a babanod, pum plentyn oedran ysgol gynradd, 16 yn eu harddegau cynnar ac 20 dros 15 oed.

Roedd y rhan fwyaf o’r plant hyn yn cael gofal gan y 123 o ofalwyr maeth awdurdod lleol gyda Chyngor Sir y Fflint.

Y rhesymau cyffredin pam mae plant yn dod i ofal maeth yw plant sy’n cael niwed neu eu hesgeuluso gyda rhieni sy’n byw bywydau caotig iawn gan gynnwys defnyddio cyffuriau ac alcohol a thrais domestig.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r tîm hwn o bobl ymroddedig yn seiliedig yn y Fflint, a gyda gweithiwr cymdeithasol ymroddedig y plentyn a’r gofalwyr maeth presennol ar draws y sir, maen nhw’n gweithio fel tîm i gefnogi’r bobl ifanc.

“Ein problem yw bod ein gofalwyr maeth arbennig a phrofiadol yn llawn.  Maen nhw’n gofalu am blant hirdymor eisoes ac mae gennym blant newydd yn dod i ofal maeth sydd angen cartref cariadus, diogel a gofalgar. Mae ein gofalwyr maeth profiadol yn ymddeol hefyd, ac mae angen gofalwyr newydd arnom i ddechrau maethu.”

Mae llawer o wahanol fathau o faethu i weddu i chi a’ch teulu, hyd yn oed dechrau’n raddol gan gynnig cyfle i blant aros dros nos, neu gynnig cefnogaeth dros benwythnos a gwyliau’r ysgol. Rydym yn argymell eich bod yn maethu plant sy’n iau nac unrhyw blant eraill yn eich cartref. Mae’n bwysig eich bod yn gallu ystyried gofalu am amrywiaeth oedran eang o blant.

Meddai’r Cynghorydd Jones:

“Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o weithio gyda phlant yn ddelfrydol – efallai yn eu swydd mewn ysgol, nyrsio neu hyd yn oed fel arweinydd sgowtiaid neu brofiad o fagu eu plant eu hunain. Mae angen pobl arnom sydd â phlant sy’n o leiaf 10 oed hefyd, neu dros 18 oed yn ddelfrydol. Bydd hyn yn caniatáu i ni roi ystyriaeth i chi i ofalu am lawer o wahanol blant. Nid oes ots a ydych yn sengl, priod, ifanc neu hen.”

Mae tîm maethu Sir y Fflint yn cynnal sesiynau gwybodaeth yn yr ardal leol i unrhyw un ddod iddynt a dysgu mwy am faethu.

Dydd Iau 20 Medi 7.30pm Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Dydd Mawrth 2 Hydref 7.30pm Gwesty Springfield

Dydd Iau 11 Hydref 7.30pm Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Dydd Iau 25 Hydref 7.30pm Gwesty Springfield

Anfonwch e-bost at fostering@flintshire.gov.uk i gofrestru i fynychu.

I gael gwybod mwy am faethu, ewch i www.flintshirefostering.org.uk neu ffoniwch 01352 701965.