Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith adeiladu yn dechrau ar gynllun tai gofal ychwanegol newydd

Published: 31/07/2018

Anwyl Holywell 02.jpgMae gwaith adeiladu wedi dechrau ar gynllun tai gofal ychwanegol newydd gwerth £8.5 miliwn yn Nhreffynnon

Mae'r prif gontractwr Anwyl Construction wedi clirio’r safle ac wedi dechrau ar y gwaith o adeiladu pedwerydd cynllun gofal ychwanegol Sir y Fflint, sy’n cael ei ddarparu gan y datblygwyr Tai Wales & West mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint.

Mae’r prosiect hwn, ar y safle lle’r oedd Ysgol Perth y Terfyn yn arfer bod, yn cynnwys safle fflatiau 55 uned.

Bydd yr adeilad fflatiau pedwar llawr yn cynnwys 43 o fflatiau un ystafell wely a 12 o fflatiau dwy ystafell wely gydag ystod o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr ar y safle i bobl hyn gydag anghenion cymorth.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 

 “Dyma gam mawr arall ymlaen ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf yn Sir y Fflint. Gyda’r Cyngor a Chymdeithas Tai Wales & West ac Anwyl Construction yn gweithio mewn partneriaeth, mae pob un ohonom yn edrych ymlaen i weld y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd y cyfleuster newydd yn Nhreffynnon yn cynnig cyfleusterau ardderchog i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau trigolion.  Mae’n gyfle gwych arall i ddatblygu tai sy’n galluogi pobl hyn i gael dewis newydd, tra’n cynnal eu hannibyniaeth a’u lles.”

Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Tai Wales & West: 

"Y cynllun gofal ychwanegol hwn fydd yr ail un yn Sir y Fflint, yn cynnig hyd yn oed mwy o allu i fyw’n annibynnol mewn llety o ansawdd uchel gyda mynediad i ofal a chymorth 24 awr ar y safle. Rydym wrth ein boddau i fod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu’n cynllun a gydag Anwyl Construction fel y prif gontractwr rydym yn gallu sicrhau fod swyddi’n cael eu creu a’u cadw yng Ngogledd Cymru, gan gynnig hwb economaidd sylweddol i’r rhanbarth.”

Dywedodd Rheolwr Masnachol Anwyl Construction, Simon Rose: 

"Rydym wrth ein bodd i weithio gyda Thai Wales & West a Chyngor Sir y Fflint ar yr hyn sy’n ddatblygiad arwyddocaol iawn i Dreffynnon.

 “Bydd y cyfleuster Gofal Ychwanegol yn cynnig cyfleoedd o safon uchel yn yr ardal ac yn dod a datrysiad i fyw'n annibynnol.  Ar brosiect sylweddol fel hwn, rydym bob amser yn ceisio defnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol i sicrhau fod cyfleoedd gwaith pwysig yn cael eu gwireddu, mae hyn hefyd yn cynnwys prentisiaethau a lleoliadau profiad gwaith, ac yn ei dro yn cynnig buddsoddiad yn economi’r ardal.

 “Mae’r gallu i ddefnyddio’r gadwyn gyflenwi leol hefyd yn dangos bod gennym sgiliau adeiladu o safon a phrofiad yma yng Ngogledd Cymru i gyflawni prosiectau mawr fel hyn.”

Anwyl Holywell 01.jpg Anwyl Holywell 03.jpg