Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint a Wates yn parhau i Adeiladu Dyfodol

Published: 20/08/2018

Mae ceiswyr swyddi wedi cael cyfle arall i sbarduno eu gyrfa gyda datblygwr cenedlaethol, Wates Residential, fel rhan o raglen Cyngor Sir y Fflint i adeiladu 500 o gartrefi newydd sbon ledled y sir.

Mae'r cwrs hyfforddi dwys dwy wythnos, yn cael ei gynnal am y trydydd tro wedi rhoi cyfle i 38 o bobl leol gymryd rhan yn rhaglen genedlaethol ‘Building Futures’ Wates.

Cafodd ymgeiswyr eu recriwtio drwy raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Sir y Fflint sy’n gweithio gyda phobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi.

Mae’r rhaglen hyfforddi yn cynnwys sesiynau sgiliau crefftau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed a chynnal a chadw yn ogystal â gweithdai ysgrifennu CV a chyfweliadau gyda Wates Residential a’u partneriaid cadwyn gyflenwi. Derbyniodd pob ymgeisydd dystysgrif mewn seremoni wobrwyo ar ddiwedd y cwrs pythefnos.

Yn ystod y cwrs ymunodd yr ymgeiswyr â Wates hefyd ar safle hen Ganolfan Melrose yn Shotton lle mae'r datblygwr ar hyn o bryd yn adeiladu pum ty 2 ystafell wely a phedwar o fflatiau 1 a 2 ystafell wely fel rhan o Bartneriaeth Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP).

Mae darparu Adeiladu Dyfodol yn rhan o swyddogaeth Wates Residential fel datblygwr arweiniol ar gyfer SHARP, a fydd yn gweld 500 o gartrefi newydd yn cael eu creu ledled Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

 “Mae Cyngor Sir y Fflint yn hwyluso mwy o brentisiaethau newydd yn y sir, yn arbennig ym maes adeiladu.  Mae’r datblygiad hwn yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor - gan gynyddu buddion prosiectau cyfalaf megis ein rhaglenni tai lle bydd £100m yn cael ei fuddsoddi dros y 5 mlynedd nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, a gyflwynodd y gwobrau:

 “Ar ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am gymryd y cam cyntaf a chwblhau’r rhaglen hon.  Rydych i gyd wedi bod yn bresennol bob dydd ac wedi cyflawni'r cymwysterau.  Mae angen pobl fel chi arnom ac mae llawer o gyfleoedd ar gael i chi ddatblygu’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni hyd yma.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential North, Richard Shroll:

 “Mae rhaglen SHARP Sir y Fflint, sydd wedi bod yn cael ei redeg ers pedair blynedd yn dod â chartrefi newydd hanfodol i’r sir ac ers diwrnod cyntaf ein partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, rydym wedi cydweithio i sicrhau fod y gwaith pwysig hwn o fudd i bobl leol.

 “Rydym wedi darparu nifer o raglenni Adeiladu Dyfodol llwyddiannus ar draws Sir y Fflint, pob un wedi eu teilwra i ysbrydoli ceiswyr gwaith lleol, meithrin eu sgiliau a’u helpu i gymryd y camau cyntaf pwysig hynny i yrfa mewn adeiladu yn y dyfodol.”

Achredwyd gan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF). Mae Adeiladu Dyfodol yn rhoi cymhwyster FfCCh Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr i’w helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y dyfodol.

Communities for Work Plus Shotton 01.jpg    Melrose Centre 17.jpg    Awards 15.jpg