Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae’r Teithwyr Amser Bychain yn eu holau’r haf yma!

Published: 17/07/2018

Mae hi’n haf ac mae’r Teithwyr Amser Bychain yn ôl i gael hwyl dros yr haf yn dysgu am hanes trwy luniau, straeon, odlau, crefftau a cherddoriaeth!

Mae Archifdy Sir y Fflint yn gwahodd teithwyr amser bychain i gofrestru ar gyfer y sesiynau haf yma a fydd yn cael eu cynnal trwy gydol gwyliau’r haf.

Bydd digwyddiad y Teithwyr Amser Bychain yn cael ei gynnal bob dydd Mercher am 10.30am yn yr Archifdy ym Mhenarlâg. Dyddiadau i’ch dyddiadur: 25 Gorffennaf, 1 Awst, 15 Awst a 22 Awst.

Gall babanod a phlant hyd at 7 oed ddod draw gyda’u rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid.

Bydd y sesiynau yn para awr ac maer cyfan yn rhad ac am ddim.

Mae archebu lle’n hanfodol, felly peidiwch ag oedi! I archebu lle, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01244 532364.