Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hybu ymwelwyr a rheoli cyrchfan

Published: 11/07/2018

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint drafod y dulliau presennol a rhai sy’n datblygu ar gyfer hybu ymwelwyr a rheoli cyrchfan yn y Sir pan mae’n cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. Er bod economi ymwelwyr yn Sir y Fflint yn gydran gymharol fechan o economi Sir y Fflint, maen parhau i fod yn gyfrannwr pwysig. Mae’r sector yn cyflogi oddeutu 3,272 o bobl ac yn creu oddeutu £252m bob blwyddyn o 3.7m o arhosiadau dros nos a 2.7m o ymweliadau diwrnod. Mae 4.7m o bobl yn byw o fewn 60 munud mewn cerbyd o Sir y Fflint gan roi dalgylch mawr ar gyfer yr economi ymwelwyr. Mae’r cyngor yn gweithio’n agos gyda busnesau twristiaeth, awdurdodau cymdogol a Llywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo Sir y Fflint, yn arbennig i gwsmeriaid posibl o Ogledd Gorllewin Lloegr. Mae hybu twristiaeth yn dibynnu’n gryf ar gyfryngau cymdeithasol a chynhyrchiant fideos a deunyddiau marchnata electronig sy’n dangos y rhanbarth a’r Sir. Mae’r Cyngor hefyd yn gwneud defnydd o gyfleoedd marchnata cenedlaethol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Sir y Fflint i gynulleidfa mor eang â phosib. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Rheoli Cyrchfan yn bwysig er mwyn sicrhau bod ardal yn cael ei reoli a’i gyfarparu er mwyn darparu ar gyfer anghenion ei ymwelwyr. Mae hwn yn flaenoriaeth genedlaethol i Lywodraeth Cymru. Mae Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir y Fflint yn bwriadu cynyddu cyfartaledd hyd arhosiad ymwelwr mewn atyniad, uchafu ar gyfleoedd i ymwelwyr aros a gwario a chyflawni lledaeniad mwy effeithiol o ymwelwyr ar draws y Sir, er mwyn manteisio ar refeniw twristiaeth ychwanegol o fewn yr economi lleol.” Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae cyfleoedd gwych ar gael a dylem fanteisio arnynt. O safbwynt cefn gwlad a thwristiaeth, rhaid i ni ddatblygu ein seilwaith ymwelwyr ymhellach, ynghyd â gweithgaredd hyrwyddo ar hyd arfordir Dyfrdwy, ein trefi hanesyddol, hyrwyddor Sir fel cyrchfan cerdded o’r radd flaenaf gydag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, a pharhau i ddatblygu’r atyniadau yn ardaloedd Maes Glas a Threffynnon a chryfhaur cysylltiadau sy’n datblygu rhwng adfywio’r Sir, twristiaeth a rôl y mannau gwyrdd a chefn gwlad er mwyn sicrhau ein bod ni’n manteisio ar yr hyn mae ein Sir brydferth yn ei gynnig.”