Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg a Chynllun Cydraddoldeb Sengl

Published: 11/07/2018

Cyflwynir Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg i Gabinet Cyngor Sir y Fflint yn y cyfarfod ddydd Mawrth 17 Gorffennaf. Bydd aelodau’r Cabinet yn derbyn adroddiadau diwedd y flwyddyn ar gynnydd a gofynnir iddynt nodi’r meysydd ar gyfer gwella. Mae meysydd o gyflawniad rhagorol yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, yn cynnwys cyhoeddir Archwiliad Cyflog Cyfartal, cynyddu niferoedd o gymunedau a busnesau sy’n gyfeillgar i ddementia a chaffis cof, addasiadau i ysgolion i alluogi disgyblion anabl i gael mynediad llawn i gyfleusterau a hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd ar gyfer gweithwyr canolfan hamdden. Mae’r Cyngor hefyd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ffyrdd y mae wedi bodloni Safonau Iaith Gymraeg. Mae nifer o gyflawniadau ar draws sectorau gwahanol y Cyngor yn cynnwys: ? Gwasanaethau Cymdeithasol: yn gweithredu “Fframwaith Mwy Na Geiriau” sy’n eu rhoi mewn safle da i gydymffurfio â Safonau a darparu gwasanaethau dwyieithog. ? Theatr Clwyd: yn weithredol wrth godi proffil yr iaith Gymraeg trwy holl weithgareddau. ? Cyflawnodd holl ysgolion cyfrwng Cymraeg wobr Arian y Siarter Iaith am eu defnydd cynyddol o Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol a nawr yn gweithio tuag at y wobr Aur. ? Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei ddiweddaru ac yn strategaeth bwysig er mwyn cynyddur nifer o ddisgyblion syn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a, dros amser, y posibilrwydd o gronfa o weithwyr syn siarad Cymraeg. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint: “Nod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw sicrhaur ddarpariaeth o ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer pobl gyda nodweddion a ddiogelir megis oed, anabledd, hil, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae Sir y Fflint wedi gwneud camau mawr ymlaen yn y maes hwn a byddwn yn parhau i wneud hynny. “Mae’r cyflawniadau mae Sir y Fflint wedi eu cyflawni ar draws y bwrdd er mwyn croesawu’r Safonau Iaith Gymraeg wedi bod yn gadarnhaol. Rydym yn ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a byddwn yn parhau i annog a chefnogi holl weithwyr i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr amgylchedd waith bob dydd. Mae ein Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg a ddrafftiwyd yn ddiweddar, hefyd yn amlygu’r pwysigrwydd o weithio gyda’n cymunedau er mwyn uchafu ar gyfleoedd i fodloni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.” Er bod meysydd cadarnhaol o ran cynnydd, mae rhai materion yn parhau, fel meysydd ar gyfer gwella, ac mae Sir y Fflint wedi nodi’r rhain a chynllunio er mwyn diogelu gwelliant. Mae’r rhain yn cynnwys gwella casgliad data am broffil ein cwsmeriaid a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi mewnol. Rydym yn parhau i wella ein cynnig iaith Gymraeg fel bod mwy o weithwyr yn cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg. Bydd darparu cefnogaeth i weithwyr yn helpu i gynyddur nifer o siaradwyr Cymraeg dros amser. Bydd hyn yn cefnogi’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog a bodloni anghenion cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.