Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu rhwydwaith bysiau yn Sir y Fflint

Published: 10/07/2018

Dros y tri mis diwethaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn ymgynghori ar ddyfodol darpariaeth gwasanaethau bws â chymhorthdal sydd yn cefnogi ac yn ategur rhwydwaith masnachol. Pwrpas yr adolygiad oedd edrych sut i flaenoriaethu cyllid cyhoeddus orau lle mae’r angen mwyaf a sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau bws lleol yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn deg ar draws y Sir. Fe ystyriodd yr adolygiad ardaloedd or Sir sydd heb gludiant cyhoeddus ar hyn o bryd a sut i gefnogi gwasanaethau masnachol orau er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd. Gofynnodd Sir y Fflint am farn aelodau o’r cyhoedd a budd-ddeiliaid allweddol am y datrysiad cludiant mwyaf priodol ar gyfer eu hardal leol trwy adnabod patrymau teithio presennol, lle a phryd mae angen cludiant, pwrpas y daith a pha rai o’r pedwar dewis arfaethedig, fyddai’n darparu datrysiad cludiant cynaliadwy at y dyfodol. I gynorthwyo gyda hyn, rhannwyd y Sir mewn i bedwar ardal ddaearyddol er mwyn blaenoriaethu a chanolbwyntio’r angen cludiant ar gyfer cymunedau unigol. Cyflwynwyd pedwar dewis cludiant i’w hystyried yn yr ardaloedd hyn. Mae adborth o’r ymgynghoriad bellach wedi cael ei gasglu a’i asesu, a’r dewis a ffefrir ydi cefnogi llwybrau bws ar y rhwydwaith bysiau craidd a chyflwyno Trefniadau Teithio Lleol mewn ardaloedd oddi ar y rhwydwaith craidd. Bydd y dewis hwn yn darparu cysondeb a hyblygrwydd o fewn y rhwydwaith a gefnogir gan alluogi i ardaloedd sydd heb gludiant cyhoeddus ar hyn o bryd i gael gwasanaeth tra’n parhau i ddarparu lefel o wasanaeth i’r rhai sydd â chludiant cyhoeddus. Pwrpas y trefniadau teithio lleol ydi cysylltu cymunedau i brif ganolbwyntiau, megis canol trefi a’r rhwydwaith bysiau craidd ar gyfer siwrneiau ymlaen, tran cynyddu mynediad teithwyr at wasanaethau masnachol gan sicrhau eu cynaliadwyedd. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd Sir y Fflint ar 12 Gorffennaf iw ystyried. Yn ogystal â chanlyniad yr adolygiad rhwydwaith bysiau, fe gynhelir trafodaeth ar nifer y trefniadau cludiant ysgol sefydledig nad ydynt yn cydymffurfio â pholisi presennol Cludiant o’r cartref i’r ysgol Cyngor Sir y Fflint, ynghyd ag adolygiad o gostau tocynnau bws rhatach ar gyfer cludiant ysgol.