Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhybudd diogelwch tân ar gyfer cefn gwlad Sir y Fflint

Published: 04/07/2018

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn ymbil ar bobl i fod yn ofalus iawn yng nghefn gwlad yn ystod y tywydd poeth a gwneud popeth o fewn eu gallu i atal tanau. Daw’r rhybudd wrth i danau effeithio ar rannau o Wynedd a Môn, yn ogystal â’r tanau difrifol yng Ngogledd-orllewin Lloegr. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Er y bydd nifer ohonom nin mwynhaur pwl anarferol o hir o dywydd poeth iawn, mae’n dod â pheryglon efo fo. Mae’r tir yn sych grimp ac mae’r perygl o dân yn cynyddu bob dydd. Gall tân yn yr awyr agored, un bwriadol neu ddamweiniol, wasgaru ar draws ardaloedd mawr yn sydyn iawn. Gall pethau syml fel osgoi cael barbeciw ar dir agored a gwneud yn siwr eich bod yn cael gwared â sigaréts sydd wedi’u tanio yn ddiogel a chywir leihau’r risg o dân yn sylweddol. Gofynnwn i bobl gymryd gofal gwirioneddol pan maent yng nghefn gwlad a gwneud popeth sydd ei angen i ddiogelu rhag tân. Dywedodd Kevin Roberts, Uwch-reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Yn yr amodau sych yma, gall tanau glaswellt, rhedyn a grug ddatblygu’n sydyn iawn, yn enwedig lle mae awel go gref, a gall tanau yn fuan iawn fynd yn rhy fawr iw rheoli a lledu i eiddo a choedwigoedd ger llaw, a bydd angen i ni wedyn ddod i’w diffodd. “Felly, os ydych chi allan, maen bwysicach nag erioed yn yr amodau yma i chi wneud yn siwr eich bod yn cael gwared â phethau ysmygun y ffordd gywir au diffodd yn iawn. Os ydych chi allan yn gwersylla, eto, gwnewch yn siwr bod tanau a barbeciws yn cael eu diffodd yn llwyr. Gorau oll os gallwch chi osgoi unrhyw danau agored yn ystod y cyfnod sych hwn. “Mae’r tanau’n rhoi straen enfawr ar ein hadnoddau ni, wrth i ddiffoddwyr tân orfod gweithio am gyfnodau hir er mwyn gallu eu rheoli. Maen nhw hefyd yn aml yn cynnau mewn ardaloedd lle maen anodd iawn mynd atyn nhw ac nad oes llawer o ddwr. “Cofiwch fod cychwyn tanau’n drosedd ac rydyn nin gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i atal rhai bwriadol – bydd rhai syn gyfrifol yn cael eu herlyn.”