Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn erlyn landlord a ganiataodd amodau byw gwael i deulu

Published: 03/07/2018

Mae landlord Sir y Fflint wedi’i ganfod yn euog o saith trosedd o dan ddeddfwriaeth tai a ddyluniwyd i amddiffyn tenantiaid yn y sector rhentu preifat, ar ôl erlyniad llwyddiannus gan dîm Iechyd Amgylcheddol Sir y Fflint. Canfuwyd Stephen John Gleave o Brestatyn, sydd ag euogfarnau blaenorol am droseddau’n ymwneud â thai, yn euog o fethu â chydymffurfio â Rhybudd Gwella a chwe throsedd tai arall, yn cynnwys: methu â chofrestru ei eiddo rhent gyda Rhentu Doeth Cymru a methu â chael trwydded i weithredu fel landlord preifat yng Nghymru – gyda’r ddau yn ofyniad cyfreithiol ers Tachwedd 2014. Roedd yr eiddo a oedd yn destun Rhybudd Gwella, a gyflwynwyd o dan Ddeddf Tai 2004, yn deras dau lawr yn Shotton, gyda mam a’i dau o blant yn byw ynddo. Nid oedd yr eiddo wedii drawsnewid yn dda, ac nid oedd wedi’i gynnal gan Gleave am nifer o flynyddoedd. Or herwydd, roedd y teulu wedi gorfod dioddef lleithder treiddiol, diffyg dwr poeth, diffyg gwres digonol, cyfleusterau cegin ac ymolchi gwael, darpariaethau diogelwch tân gwael a pheryglon cwympo difrifol. Roedd Gleave hefyd wedi parhau i wrthod cofrestru ei dri eiddo rhent yn Sir y Fflint gyda Rhentu Doeth Cymru ac wedi methu â gwneud cais am, a chynnal, hyfforddiant gorfodol er mwyn cael trwydded i weithredu fel landlord yng Nghymru. Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn bodloni’r holl safonau gofynnol sydd eu hangen ar gyfer tai preifat yng Nghymru. Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref sydd mewn cyflwr da, gyda mynediad parod at bob amwynder hanfodol a heb unrhyw beryglon adeileddol. Er ein bod yn ceisio lleihau effeithiau iechyd o ganlyniad i gyflyrau tai gwael drwy gyfuniad o gyngor a chymorth ariannol, o bryd iw gilydd rydym yn delio gyda materion sydd mor ddifrifol fel bod erlyn yn hanfodol. Mae’r erlyniad hwn yn anfon neges glir at landlordiaid preifat eraill, bod diffyg cydymffurfiad â safonau tai cyfredol a diffyg cydymffurfiad â chyfreithiau Rhentu Doeth Cymru – yn gwbl annerbyniol.” Cafodd Gleave, na ddaeth ir gwrandawiad llys, ddirwy o £10,600, a £1,688 o gostau a’i orchymyn i dalu’r cyfanswm o fewn 28 diwrnod neu wynebu ymddangosiadau llys pellach.