Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archwiliadau Cerrig Beddi

Published: 03/07/2018

Bydd staff Gwasanaethau Profedigaeth Cyngor Sir y Fflint yn ymgymryd ag archwiliadau diogelwch cerrig beddi yn y mynwentydd canlynol yn ystod mis Gorffennaf: · Penarlâg Rhif 1 · Penarlâg Rhif 2 · Greenfield Rhif 2 · Treuddyn · Ffordd Northop, Fflint Mae’r gwaith hwn yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch a Chanllawiau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Ddiogelwch Cofebau. Caiff yr archwiliadau eu cynnal gan swyddogion a fydd yn sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gyflawni’n broffesiynol a pharchus. Caiff bob carreg fedd ei archwilio’n ofalus ai brofi am gadernid er mwyn sicrhau nad ydynt mewn perygl o ddisgyn ac achosi niwed i ymwelwyr neu weithwyr syn gweithio yn y fynwent. Bydd cerrig beddi sy’n methu’r prawf a’u hystyried yn beryglus yn cael eu nodi’n unol â hynny, eu cefnogi dros dro neu eu rhoi i orwedd yn llorweddol.