Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Mary yn 100!

Published: 19/06/2018

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig. Cynhaliwyd te pnawn ar 17 Mehefin i ddathlu pen-blwydd Mary Griffiths, Mather gynt, yn 100 oed. Yn enedigol o Ruddlan, a’r hynaf o 6 o blant, daeth i’r Wyddgrug yn 5 oed ac yno y bu’n byw nes iddi symud i’r Fflint gyda’i gwr Harold a’i mab Jim, bron i 60 mlynedd yn ôl. Bu Mrs Griffiths yn gweithio yn y ffatri fwledi a chetris yn Rhydymwyn yn ystod y rhyfel, tra bu ei gwr i ffwrdd am 6 mlynedd yn gwasanaethu gydar Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Burma. Bu hefyd yn gwirfoddoli gyda’r Groes Goch ac yn cynorthwyo yn ysbyty Yr Wyddgrug cyn mynd i weithio yn Woolworths ac yna yn Ysgol Uwchradd y Fflint. Mae gan Mrs Griffiths nifer o gymdogion a chyfeillion da a ymunodd â hi a’i theulu i ddathlu’r achlysur hapus hwn.